1Canmolwn yn awr y gwŷr enwog, a’n tadau a’n cenhedlodd ni.
2Llawer o ogoniant a wnaeth yr Arglwydd trwyddynt hwy, â’i fawredd erioed.
3Y rhai a lywodraethasant ar eu teyrnasoedd, ac oeddynt wŷr enwog o allu, yn cynghori yn synhwyrol, ac yn traethu proffwydoliaethau;
4Blaenorwyr y bobl trwy eu cyngor, a thrwy ddeall addysg y bobl; doethion ac ymadroddus oeddynt yn eu hathrawiaeth;
5Hwy a geisiasant allan felystra cerdd, ac a draethasant ganiadau sgrifenedig;
6Gwŷr cyfoethogion, cedyrn o nerth, a heddychlon yn eu cartref, oeddynt hwy.
7Y rhai hyn oll yn eu cenedlaethau a gawsant ogoniant, a gorfoledd yn eu dyddiau.
8Bu rai ohonynt hwy gyfryw ag a adawsant enw ar eu hôl, fel y mynegid eu clod hwynt.
9Bu hefyd rai heb tod cofia amdanynt, y rhai y darfu amdanynt fel pe na buasent, ac a aethant fel pe nas ganesid hwynt, a’u plant ar eu hôl hwynt.
10Eithr gwŷr trugarog oedd y rhai hyn, cyfiawnder pa rai nis anghofiwyd.
11Gyda’u hiliogaeth hwynt yr erys etifeddiaeth dda; y mae eu hiliogaeth hwynt yn y cyfamod hefyd;
12Y mae eu hiliogaeth hwynt yn y cyfamod, a’u plant ar eu hôl.
13Byth y pery eu hiliogaeth; a’u gogoniant ni ddileir.
14Eu cyrff a gladdwyd mewn heddwch; ac y mae eu henw yn byw byth.
15Y bobl a fynegant eu doethineb hwy, a’r gynulleidfa a draetha eu clod hwynt.
16Enoch a ryglyddodd fodd i Dduw, ac a fudwyd ymaith, yn siampl o edifeirwch i’r cenedlaethau oll.
17Noa a gafwyd yn berffaith ac yn gyfiawn yn amser dicter: efe a gymerwyd yn gyfnewid am y byd; am hynny, pan fu y dilyw, y gadawyd ef yng ngweddill i’r ddaear.
18Cyfamod tragwyddol a wnaed ag ef, na ddifethid pob cnawd trwy ddilyw mwy.
19Abraham sydd dad mawr i lawer o genhedloedd; ac ni chafwyd ei fath ef mewn gogoniant:
20Yr hwn a gadwodd gyfraith y Goruchaf, ac a ddaeth mewn cyfamod ag ef: efe a osododd y cyfamod yn ei gnawd; ac wrth ei brofi, efe a gafwyd yn ffyddlon.
21Am hynny y sicrhaodd efe iddo ef trwy lw, y bendithid y Cenhedloedd yn ei had ef, yr amlheid ef fel llwch y ddaear, ac y dyrchefid ei had ef fel y sêr, ac y caent etifeddu o fôr, ac o’r afon i eithaf y ddaear.
22Felly y sicrhaodd efe i Isaac, er mwyn Abraham ei dad, fendith pob dyn, a’r cyfamod,
23Ac a wnaeth iddo orffwyso ar ben Jacob: efe a’i hadnabu ef gan ei fendithio, ac a roddodd iddo etifeddiaeth, ac a neilltuodd ei ran ef, ac a’i rhannodd ymysg y deuddeg llwyth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
