I Macabeiad 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 14

1Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn a thrigain a chant y casglodd y brenin Demetrius ei luoedd, ac efe a aeth i Media i gasglu iddo gymorth, i ryfela yn erbyn Tryffon.

2Pan glybu Arsaces brenin Persia a Media ddyfod Demetrius o fewn ei derfynau ef, efe a anfonodd un o’i dywysogion i’w ddal ef yn fyw.

3A hwnnw a aeth, ac a drawodd wersyll Demetrius, ac a’i daliodd ef, ac a’i dug ef at Arsaces; ac yntau a’i rhoddes ef yng ngharchar.

4A gwlad Jwdea a gafodd lonydd holl ddyddiau Simon; canys efe a geisiodd ddaioni i’w genedl: a bodlon oedd ganddynt ei awdurdod ef a’i anrhydedd yr holl amser.

5Simon hefyd, heblaw ei holl ogoniant, a enillodd Jope yn borthladd, ac a wnaeth ffordd i ynysoedd y môr.

6Ac efe a helaethodd derfynau ei genedl, ac a enillodd y wlad.

7Hefyd efe a gasglodd gaethglud fawr, ac a feddiannodd Gasara, a Bethsura, a’r tŵr, ac a dynnodd yr aflendid allan ohono ef; ac nid oedd a safai yn ei erbyn ef.

8Felly yr oeddynt hwy yn llafurio eu tir yn heddychlon, a’r ddaear a roddes ei chnwd, a choed y maes eu ffrwythau.

9Yr henuriaid a eisteddent yn yr heolydd, am ddaioni yr ymgynghorent hwy oll, a’r gwŷr ieuainc a wisgent ddillad parchedig a gwisgoedd rhyfel.

10Efe a ddarparodd ymborth i’r dinasoedd, ac a osododd ynddynt bob offer cadernid, hyd oni sonnid am ei enw anrhydeddus ef hyd eithafoedd y ddaear.

11Efe a wnaeth heddwch yn y wlad; ac fe gafodd Israel lawenydd mawr:

12Pob un a eisteddai dan ei winwydden a’i ffigysbren, ac nid oedd a’u dychrynai.

13Ni adawyd un yn y wlad i ryfela yn eu herbyn hwynt: a’r brenhinoedd a ddinistriwyd yn y dyddiau hynny.

14Hefyd efe a gadarnhaodd bob un darostyngedig o’i bobl: efe a chwiliodd allan y gyfraith, ac a dynnodd ymaith bob dyn annuwiol a drygionus.

15Efe a barchodd y cysegr, ac a amlhaodd lestri’r cysegr.

16A hwy a glywsant yn Rhufain farw Jonathan, a hyd Sparta hefyd; ac athrist iawn fu ganddynt.

17Ond pan glywsant hwy wneuthur Simon ei frawd ef yn archoffeiriad yn ei le ef, ac ennill ohono ef y wlad a’r dinasoedd ynddi,

18Hwy a sgrifenasant ato ef mewn llechau pres, i adnewyddu ag ef y gyfeillach a’r gydymdeithas a wnaethent hwy â Jwdas ac â Jonathan ei frodyr ef.

19A hwy a ddarllenwyd o flaen y gynulleidfa yn Jerwsalem.

20A dyma gopi y llythyrau a anfonodd y Spartiaid: Tywysogion a dinas y Spartiaid yn cyfarch yr archoffeiriad Simon a’r henuriaid, a’r offeiriaid, a’r rhan arall o’n brodyr, pobl yr Iddewon:

21Y cenhadon a anfonwyd at ein pobl ni, a fynegasant i ni am eich gogoniant a’ch parch chwi; a llawen fu gennym eu dyfodiad hwynt:

22Ac ni a sgrifenasom yr hyn a ddywedasant hwy, ymysg cynghorion y bobl, fel hyn; Numenius mab Antiochus, ac Antipater mab Jason, cenhadau yr Iddewon, a ddaethant atom ni i adnewyddu y gyfeillach oedd rhyngddynt a ni.

23A bodlon oedd y bobl i dderbyn y gwŷr yn anrhydeddus, ac i sgrifennu copi o’u hymadrodd hwynt yn y llyfrau a ddangosir, fel y câi pobl y Spartiaid goffadwriaeth o hynny: hwy a sgrifenasant hefyd gopi o hyn at Simon yr archoffeiriad.

24Wedi hyn fe anfonodd Simon Numenius i Rufain, â tharian fawr o aur ganddo, o bwys mil o bunnoedd, i sicrhau’r gyfeillach â hwynt.

25A phan glybu’r bobl y geiriau hyn, hwy a ddywedasant, Pa ddiolch a roddwn ni i Simon ac i’w feibion?

26Oblegid efe, a’i frodyr, a thŷ ei dad, a gryfhasant Israel, ac a ddinistriasant elynion Israel o’u mysg, ac a sicrhasant iddo ef ryddid.

27A hwy a’i sgrifenasant mewn llechau pres, ac a’i gosodasant ar golofnau ym mynydd Seion. A dyma gopi yr ysgrifen: Y deunawfed dydd o fis Elul, y ddeuddegfed flwyddyn a thrigain a chant, a’r drydedd flwyddyn er pan yw Simon yr archoffeiriad,

28Yn Saramel, yn y gynulleidfa fawr o offeiriaid, a phobl, a thywysogion y genedl, a henuriaid y wlad, yr hysbyswyd i ni y pethau hyn.

29Oherwydd bod rhyfeloedd yn fynych yn y wlad, yn y rhai yr ymroddes Simon mab Matatheias, o feibion Jarib, a’i frodyr, i’r perygl, ac a safasant yn erbyn gwrthwynebwyr eu cenedl, er mwyn cynnal eu cysegr a’u cyfraith, ac a anrhydeddasant eu cenedl ag anrhydedd mawr.

30(Canys wedi i Jonathan gasglu eu cenedl hwynt, a bod yn archoffeiriad iddynt, a’i roddi at ei bobl;

31A’u gelynion hwynt yn bwriadu dyfod i fyny i’w gwlad hwynt i ddifetha eu gwlad, ac i estyn eu dwylo yn erbyn eu cysegr hwynt;

32Yn yr hwn amser y cyfododd Simon, ac a ryfelodd dros ei genedl, ac a dreuliodd lawer o’i arian ei hun, ac a arfogodd wŷr nerthol o’i genedl, ac a roddes iddynt gyflog,

33Ac a gadarnhaodd ddinasoedd Jwdea, a Bethsura, yr hon sydd yng nghyffiniau Jwdea, lle y buasai arfau y gelynion o’r blaen, ac a osododd yno wŷr o Iddewon i warchod.

34Felly y cadarnhaodd efe Jope, yr hon sydd wrth y môr; a Gasara, yr hon sydd yng nghyffiniau Asotus, lle’r oedd y gelynion yn aros o’r blaen: ac efe a osododd Iddewon yno, ac a osododd yno ba bethau bynnag oedd gymwys i’w cywair hwynt.)

35Y bobl gan hynny yn gweled ffyddlondeb Simon, a’r anrhydedd yr oedd efe yn amcanu ei wneuthur i’w genedl, a’i gosodasant ef yn gapten ac yn archoffeiriad, am iddo wneuthur hyn oll, ac am y cyfiawnder a’r ffyddlondeb a gadwasai efe i’w genedl, ac am geisio ohono ddyrchafu ei bobl trwy bob modd.

36Canys yn ei ddyddiau ef yr oedd llwyddiant yn ei ddwylo ef, yn gymaint â bwrw allan o’u gwlad hwynt y Cenhedloedd, a’r rhai oedd yn ninas Dafydd ac yn Jerwsalem, y rhai a wnaethent iddynt dŵr, allan o’r hwn y deuent, ac yr halogent y cwbl o amgylch y cysegr, ac y gwnaent ddialedd mawr yn erbyn sancteiddrwydd.

37Ac efe a osododd ynddi hi wŷr o Iddewon, ac a’i cadarnhaodd hi yn ddiogelwch i’r wlad, ac i’r ddinas, ac a gododd gaerau Jerwsalem.

38A’r brenin Demetrius a sicrhaodd yr archoffeiriadaeth iddo ef yn hollol,

39Ac a’i gwnaeth ef o’i garedigion, ac a’i hanrhydeddodd ef ag anrhydedd mawr.

40Oblegid fe glywsid fod y Rhufeinwyr yn galw’r Iddewon yn gyfeillion ac yn gymdeithion, a chyfarfod ohonynt â chenhadau Simon yn anrhydeddus;

41A gweled o’r Iddewon yn dda, a’r offeiriaid hefyd, fod Simon yn gapten iddynt, ac yn archoffeiriad byth, hyd oni chodai proffwyd ffyddlon;

42A’i fod ef yn gapten arnynt hwy, ac i ofalu am y cysegr, fel y gosodai efe hwynt ar eu gwaith, ac ar y wlad, ac ar yr arfau, ac ar y cestyll, fel y byddai, meddaf, arno ef y gofal am y cysegr,

43Ac y gwrandawai pawb arno, ac y sgrifennid pob sgrifen yn y wlad yn ei enw ef, ac y dilledid ef mewn porffor, ac y gwisgai aur:

44Am hynny ni bydd gyfreithlon i neb o’r bobl nac o’r offeiriaid ddiddymu dim o hyn, na dywedyd yn erbyn dim a ddywedo efe, na galw cymanfa ynghyd yn y wlad hebddo ef, na gwisgo porffor, nac arfer bwcl aur;

45A phwy bynnag a wnelo yn erbyn hyn, neu a ddiddymo ddim o hyn, euog fydd efe.

46A bodlon oedd gan yr holl bobl osod Simon i wneuthur fel hyn.

47Simon hefyd a gymerodd hyn, ac a fu fodlon i fod yn archoffeiriad, ac yn gapten ac yn dywysog ar genedl yr Iddewon a’r offeiriaid, ac i lywodraethu pawb.

48A hwy a barasant osod yr ysgrifen hon mewn llechau pres, a’u gosod hwynt o fewn cylch y cysegr mewn lle hynod;

49A gosod copi o hynny yn y trysordy, fel y gallai Simon a’i feibion ei gael ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help