1A digwyddodd, wedi i Alexander y Macedoniad, mab Philip, fyned allan o wlad Chettim, a lladd Dareius brenin y Persiaid a’r Mediaid, a theyrnasu yn ei le ef, fel y teyrnasai o’r blaen yn Groeg,
2Efe a osododd ryfeloedd lawer, ac a enillodd ddinasoedd cedyrn, ac a laddodd frenhinoedd y ddaear;
3Ac a dramwyodd hyd eithafoedd y ddaear, ac a ddug anrhaith oddi ar lawer o genhedloedd; a’r ddaear oedd yn llonydd ger ei fron ef: ac am hynny ei galon ef a ddyrchafwyd, ac a falchïodd.
4Ac wedi iddo gasglu llu cadarn iawn, efe a lywodraethodd ar wledydd, a chenhedloedd, a theyrnasoedd, ac a’u gwnaeth hwy yn drethol iddo.
5Ac wedi hyn, efe a glafychodd, ac a wybu y byddai farw.
6Am hynny efe a alwodd am ei wasanaethwyr, y rhai anrhydeddus, a’r rhai a gydfaethesid ag ef o’i ieuenctid, ac a gyfrannodd ei deyrnas iddynt hwy, pan oedd efe eto yn fyw.
7Felly Alexander a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd, ac a fu farw.
8A’i dywysogion ef a lywodraethasant, bob un yn ei le.
9A hwy oll a osodasant goronau ar eu pennau wedi ei farw ef, a’u meibion ar eu hôl, lawer o flynyddoedd: a drygau a amlhaodd ar y ddaear.
10Ac ohonynt hwy y daeth y gwreiddyn pechadurus Antiochus Epiffanes, mab Antiochus y brenin, yr hwn a fuasai yn wystl yn Rhufain: ac efe a deyrnasodd yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain a chant o frenhiniaeth y Groegwyr.
11Yn y dyddiau hynny dynion anwir a aethant allan o Israel, ac a hudasant lawer, gan ddywedyd, Awn, a gwnawn amod â’r Cenhedloedd sy o’n hamgylch: canys er pan y’n gwahaned oddi wrthynt hwy, ni a gawsom lawer o ddrygfyd.
12A’r ymadrodd hwn oedd dda yn eu golwg hwy.
13A rhai o’r bobl a fuant mor barod, ag yr aethant at y brenin; ac efe a roddes iddynt awdurdod i wneuthur defodau y Cenhedloedd.
14A hwy a adeiladasant ysgol yn Jerwsalem, yn ôl arfer y Cenhedloedd;
15A hwy a wnaethant ddienwaediad iddynt eu hunain, ac a giliasant oddi wrth y cyfamod sanctaidd: ac wedi iddynt ymgysylltu â’r Cenhedloedd, hwy a ymroesant i wneuthur drwg.
16Ac wedi sicrhau’r deyrnas o flaen Antiochus, efe a fwriadodd deyrnasu ar yr Aifft, fel y gallai deyrnasu ar ddwy deyrnas.
17Ac efe a aeth i mewn i’r Aifft â thorf fawr, â cherbydau, ag eliffantiaid a gwŷr meirch, ac â llynges fawr;
18Ac a ddechreuodd ryfela yn erbyn Ptolemeus brenin yr Aifft: a Ptolemeus a ofnodd o flaen ei olwg ef, ac a ffodd; a llawer a syrthiasant yn archolledig.
19A hwy a enillasant y dinasoedd amddiffynadwy yn nhir yr Aifft; ac Antiochus a gymerodd ysbail yr Aifft.
20Ac Antiochus a ddychwelodd, wedi iddo daro’r Aifft, yn y drydedd flwyddyn a deugain a chant, ac a aeth i fyny yn erbyn Israel a Jerwsalem â thyrfa fawr.
21Ac efe a aeth i mewn yn falch i’r cysegr, ac a gymerodd ymaith yr allor aur, a’r canhwyllbren oedd yn dal y goleuad, a’i holl offer ef,
22A bwrdd y bara gosod, a’r cawgiau, a’r dysglau, a’r llwyau aur, a’r llen, a’r coronau, a’r trwsiad aur oedd ar y tu wyneb i’r deml; ac efe a dynnodd yr aur oddi arnynt oll.
23Ac efe a gymerodd yr arian a’r aur, a’r llestri gwerthfawr, ac a gymerodd y trysorau cuddiedig, y rhai a gafodd efe.
24Ac wedi iddo gymryd y cwbl, efe a aeth ymaith i’w wlad ei hun, ac a wnaethai laddfa fawr, ac a ddywedasai yn falch dros ben.
25Am hynny y bu galar mawr ymhlith yr Israeliaid ym mhob lle o’r eiddynt;
26Canys y tywysogion a’r henuriaid a ochneidiasant, y morynion a’r gwŷr ieuainc a lesgasant, a thegwch y gwragedd a gyfnewidiwyd.
27Pob priodasfab a gymerodd alar, a’r hon oedd yn eistedd yn yr ystafell briodas oedd mewn tristwch;
28A’r wlad a gynhyrfodd oherwydd ei thrigolion, a holl dŷ Jacob a wisgasid â gwarth.
29Wedi dwy flynedd lawn, y brenin a ddanfonodd y tywysog oedd yn derbyn y deyrnged, i ddinasoedd Jwda, yr hwn a ddaeth i Jerwsalem â thyrfa fawr.
30Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy eiriau heddychol yn dwyllodrus, a hwy a’i credasant ef: ac efe a ruthrodd ar y ddinas yn ddisymwth, ac a’i trawodd hi â phla mawr, ac a ddistrywiodd lawer o bobl o Israel;
31Ac a gymerodd ysbail y ddinas, ac a’i llosgodd hi â than, ac a ddistrywiodd ei thai hi a’i chaerau oddi amgylch.
32A hwy a gaethiwasant y gwragedd a’r plant, ac a berchenogasant yr anifeiliaid.
33Yna yr adeiladasant ddinas Dafydd â chaer fawr gref, ac â thyrau cedyrn, ac a’i gwnaethant hi yn amddiffynfa gadarn iddynt eu hun.
34Heblaw hyn, hwy a osodasant y genedl bechadurus yno, sef y dynion anneddfol; a hwy a ymgadarnhasant ynddi hi.
35A hwy a gludasant iddi arfau a bwyd: ac wedi iddynt hwy gasglu ysbail Jerwsalem ynghyd, hwy a’i gosodasant ef yno; ac felly hwy a fuant yn rhwyd flin.
36Canys yr oedd yn gynllwynfa yn erbyn y cysegr, ac yn wrthwynebwr blin i Israel bob amser.
37Fel hyn y tywalltasant waed gwirion o amgylch y cysegr, ac yr halogasant y lle sanctaidd.
38A thrigolion Jerwsalem a ffoesant o’u plegid hwy: a’r dref oedd yn breswylfa i ddieithriaid, ac oedd yn estronaidd i’w meibion ei hun, a’i phlant ei hun a’i gadawsant hi.
39Ei chysegr hi a wnaethid yn anghyfannedd fel y diffeithwch; ei gwyliau hi a drowyd yn alar, ei Sabothau yn waradwydd, ei hanrhydedd yn ddirmyg.
40Fel y buasai ei pharch hi, felly yr oedd ei hamarch hi; a’i hardderchowgrwydd a droesai yn alar.
41A’r brenin a sgrifennodd at ei holl deyrnas am fod o bawb yn un bobl,
42Ac ymadael o bob dyn â’i gyfreithiau ei hun: a’r holl genhedloedd a dderbyniasant orchymyn y brenin.
43A llawer o Israel a gytunasant â’i grefydd ef, ac a aberthasant i eilunod, ac a halogasant y Saboth:
44Canys y brenin a ddanfonasai lythyrau gyda chenhadon i Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ar iddynt fyned ar ôl deddfau dieithr y wlad,
45A gwahardd poethoffrymau, a bwyd-offrwm a diod-offrwm, yn y cysegr; a halogi’r Sabothau a’r gwyliau;
46A difwyno’r cysegr a’r bobl sanctaidd:
47Adeiladu allorau, a llwyni, a themlau eilunod, ac aberthu cig moch, ac anifeiliaid aflan;
48A gadael eu meibion yn ddienwaededig, a gwneuthur eu heneidiau yn ffiaidd â phob aflendid a halogrwydd;
49Fel y gollyngent hwy y gyfraith dros gof, ac y cyfnewidient yr holl ddeddfau.
50A’r hwn ni wnelai yn ôl gorchymyn y brenin, y byddai raid iddo farw.
51Efe a sgrifennodd at ei holl deyrnas yn ôl yr holl eiriau hyn, ac a wnaeth wyliadwyr ar yr holl bobl, gan orchymyn i ddinasoedd Jwda aberthu o ddinas i ddinas.
52Am hynny llawer o’r bobl a ymgasglasant atynt hwy, sef pwy bynnag a adawsai’r gyfraith: a hwy a wnaethant ddrwg yn y wlad.
53A hwy a wnaethant i Israel lechu mewn lleoedd cuddiedig, sef yn eu holl lochesau.
54A’r pymthegfed dydd o’r mis Casleu, yn y bumed flwyddyn a deugain a chant, hwy a osodasant y ffieiddbeth anrheithiol ar yr allor; ac o fewn dinasoedd Jwda oddi amgylch hwy a adeiladasant allorau eilunod;
55Ac a arogldarthasant yn nrysau’r tai, ac yn yr heolydd;
56Ac a rwygasant lyfrau’r gyfraith y rhai a gawsant hwy, ac a’u llosgasant â thân.
57A pha le bynnag y ceid llyfr y cyfamod gyda neb, neu os cytunai neb â’r gyfraith, efe a leddid wrth orchymyn y brenin.
58Wrth eu cryfder hwy a wnaent felly i’r Israeliaid a geid bob mis yn y dinasoedd.
59A’r unfed dydd ar hugain o’r mis, wrth aberthu ar allor yr eilunod, yr hon oedd ar allor Duw,
60Hwy a laddasant rai gwragedd wrth orchymyn Antiochus, y rhai a barasai enwaedu ar eu meibion;
61Ac a grogasant y plant bychain wrth eu gyddfau hwy, ac a ysbeiliasant eu tai hwy, ac a laddasant y rhai a enwaedasai arnynt.
62Er hynny llawer yn Israel a roesant eu bryd yn gwbl, ac a ymsicrhasant ynddynt eu hunain, na fwytaent bethau aflan.
63A hwy a ddewisasant farw, rhag eu llygru â bwydydd, a rhag halogi ohonynt y cyfamod sanctaidd: a hwy a ddioddefasant farwolaeth.
64A bu digofaint mawr iawn ar Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.