II Macabeiad 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 14

1Yn ôl tair blynedd y daeth y gair at Jwdas, fod Demetrius mab Seleucus wedi dyfod i mewn trwy borthladd Tripolis, â chynulleidfa rymus ac â llongau,

2Goresgyn y wlad, a lladd Antiochus a’i oruchwyliwr Lysias.

3Yr awron un Alcimus, yr hwn a fuasai yn archoffeiriad, ac o’i wirfodd a ymddifwynasai yn amseroedd eu cymysgiad â’r Cenhedloedd, pan dybiodd nad ydoedd help iddo, na bod yn rhydd mwyach fyned i’r allor sanctaidd,

4A ddaeth at y brenin Demetrius, yn y ganfed a’r unfed flwyddyn ar ddeg a deugain, gan roddi iddo goron o aur, a phalmwydden, a hefyd o’r ceinciau a arferid ar wyliau yn y deml: a’r dydd hwnnw efe a dawodd â sôn.

5Ond pan gafodd efe amser cyfaddas i’w ynfydrwydd, a chael gan Demetrius alw amdano ef i’r cyngor, a gofyn iddo ym mha gyflwr a pha gyngor yr oedd yr Iddewon yn sefyll, efe a atebodd i hynny;

6Y rhai o’r Iddewon a elwir Assideaid, ar ba rai y mae Jwdas Macabeus yn gapten, sydd yn magu rhyfel ac ymryson, ac ni adawant i’r deyrnas fod yn heddychol;

7Oherwydd hynny myfi, wedi fy ysbeilio am anrhydedd fy hynafiaid, (yr wyf yn meddwl yr archoffeiriadaeth,) yr awron a ddeuthum yma;

8Yn gyntaf yn wir, oblegid bod gennyf feddwl ffyddlon at y pethau a berthyn i’r brenin; yn ail, oblegid fy mod yn ymroddi i geisio budd i’m dinaswyr: oblegid y mae anrheswm y rhai y dywedwyd amdanynt yn blino nid ychydig ar ein holl genedl ni.

9Am hynny, O frenin, gan dy fod di yn gwybod yr holl bethau hyn, cymer ofal dros y wlad, a’n cenedl ni, yr hon sy mewn ing, â’r fath fwynder ag yr wyt ti yn ei ddangos i bawb:

10Oblegid tra fyddo Jwdas yn fyw, nid yw bosibl i’r materion gael heddwch.

11Ac wedi iddo ddywedyd hyn, yn y fan cyfeillion eraill, y rhai oedd mewn gelyniaeth â Jwdas, a enynasant Demetrius yn fwy.

12Ac yn ebrwydd gan alw Nicanor, yr hwn a fuasai yn llywydd ar yr eliffantiaid, a’i wneuthur ef yn llywodraethwr ar Jwdea, efe a’i gyrrodd allan.

13Gan roi iddo lythyrau i ladd Jwdas, ac i yrru y rhai oedd gydag ef ar wasgar, ac i wneuthur Alcimus yn archoffeiriad i’r deml fawr.

14Yna y Cenhedloedd, y rhai a ffoesent o Jwdea oddi wrth Jwdas, a ymgasglasant yn dyrfaoedd at Nicanor, gan dybied fod blinder a chwymp yr Iddewon yn llwyddiant iddynt hwy.

15Ond pan glybu’r Iddewon ddyfod Nicanor, ac ymgasglu o’r Cenhedloedd yn eu herbyn, hwy a daflasant ddaear ar eu pennau, ac a weddiasant ar yr hwn a sicrhasai ei bobl dros byth, ac sy’n amddiffyn ei ran ei hun bob amser, trwy amlygu ei bresenoldeb.

16Felly wrth orchymyn y capten, yn y fan hwy a symudasant oddi yno, ac a gyfarfuant â hwynt wrth dref Dessaro.

17Yr awron Simon brawd Jwdas a gyfarfuasai â Nicanor mewn rhyfel; ond fe a synnodd arno ef beth wrth ddisymwth ddistawrwydd y gelynion.

18Er hynny pan glybu Nicanor ddewrder y rhai oedd gyda Jwdas, a’u gwroldeb i ymdrech yng nghweryl eu gwlad, efe a ofnodd ddibennu y mater trwy ryfel.

19Am hynny efe a ddanfonodd Posidonius, a Theodotus, a Matheias, i wneuthur tangnefedd.

20Ac wedi cymryd ohonynt hir gyngor am y pethau hyn, ac i’r capten wneuthur y lliaws yn gydnabyddus â hwynt, ac ymddangos eu bod hwy o’r un meddwl, hwy a gytunasant i’r amodau,

21Ac a luniasant ddiwrnod: a phan ddaeth y dydd i ddyfod ynghyd yn gyfrinachol, ac ystolion wedi eu gosod i bob un ohonynt,

22Jwdas a osododd wŷr arfog yn barod mewn lleoedd cyfleus, rhag i’r gelynion wneuthur rhyw fradwriaeth yn ddisymwth: felly hwy a wnaethant gydymresymiad heddychol.

23Yna y trigodd Nicanor yn Jerwsalem, ac heb wneuthur niwed, efe a ollyngodd ymaith y bobl a ymgasglasai ato ef yn gadfeydd.

24Ac efe a fynnai Jwdas bob amser yn ei olwg: canys yr oedd efe yn caru y gŵr yn ei galon.

25Ac efe a ddeisyfodd arno briodi, ac ennill plant: felly efe a briododd, a fu lonydd, ac a gymerth ran o’r bywyd yma.

26Eithr Alcimus, pan ganfu efe ewyllys da’r naill at y llall, ac ystyried yr amodau a wnaethid, a ddaeth at Demetrius, ac a ddywedodd fod Nicanor yn ymyrryd mewn materion dieithr; canys Jwdas, eb efe, yr hwn oedd yn cynllwyn am ei frenhiniaeth ef, a ordeiniodd efe i fod ar ei ôl.

27Yna y brenin mewn llidiowgrwydd, ac wedi ei annog trwy achwynion y gŵr llwyrddrwg hwnnw, a sgrifennodd at Nicanor, gan ddywedyd ei fod ef yn dra anfodlon i’r amodau, a chan orchymyn iddo ddanfon Macabeus ar frys yn garcharor i Antiochia.

28Pan ddaeth hyn at Nicanor, fe a’i cythryblwyd ef ynddo ei hun yn aruthr, a blin fu ganddo orfod iddo wneuthur yn ofer yr amodau a fuasai rhyngddynt, a’r gŵr heb fod ar fai yn y byd.

29Ond o ran nad oedd gymwys wrthwynebu’r brenin, efe a wyliodd amser cyfaddas i ddwyn hyn i ben trwy gyfrwystra.

30Ond pan welodd Macabeus fod Nicanor yn afrywiocach wrtho, a’r gyfeillach arferol yn ddrengach, efe a ddeallodd na ddaeth yr afrywiowgrwydd hwnnw o’r meddwl gorau; am hynny efe a gasglodd lawer o’r rhai oedd yn ei gylch ef, ac a ymneilltuodd oddi wrth Nicanor.

31Y llall hefyd, gan wybod achub ei flaen yn odidog trwy gyfrwystra Jwdas, a ddaeth i’r deml fawr sanctaidd, ac a orchmynnodd i’r offeiriaid oedd yn offrymu’r ebyrth cyfaddas, roddi y gŵr iddo ef.

32Ond pan dyngasant na wyddent pa le yr oedd y gŵr yr oedd efe yn ei geisio,

33Efe a estynnodd ei ddeheulaw tua’r deml, ac a dyngodd fel hyn; Oni roddwch chwi Jwdas i mi yn rhwym, mi a wnaf y deml hon i Dduw yn gydwastad â’r llawr, ac a dorraf i lawr yr allor, ac a adeiladaf yma deml odidog i Bacchus.

34Ac yn ôl y geiriau hyn efe a aeth ymaith: yna’r offeiriaid a godasant eu dwylo tua’r nef, ac a alwasant ar yr hwn a fuasai erioed yn amddiffynnwr i’w cenedl hwy, gan ddywedyd fel hyn,

35Ti Arglwydd pob peth, yr hwn nid oes arnat eisiau dim, a welaist yn dda fod teml dy breswylfa yn ein plith ni.

36Am hynny yn awr, O Arglwydd sanctaidd pob sancteiddrwydd, cadw byth y tŷ yma yn ddihalog, yr hwn yn ddiweddar a lanhawyd, a chae bob genau anghyfiawn.

37Yna fe a gyhuddwyd wrth Nicanor, Rasis, un o henuriaid Jerwsalem, gŵr yn caru y ddinas, ac o enw da, yr hwn am ei ewyllys da a elwid yn dad i’r Iddewon:

38Canys yn yr amseroedd o’r blaen, pan oeddynt heb eu cymysgu eu hunain â’r Cenhedloedd, efe a gyhuddasid o grefydd Iddewig, ac yn hy a gynigiodd dreulio ei gorff a’i einioes yn ddianwadal er mwyn crefydd yr Iddewon.

39Am hynny Nicanor, gan ewyllysio dangos yn eglur ei greulondeb yn erbyn yr Iddewon, a ddanfonodd ychwaneg na phum cant o ryfelwyr i’w ddal ef:

40Canys efe a dybiodd wrth ei ddal ef, y gallai efe ddwyn dinistr ar yr Iddewon.

41Ond pan oedd y dorf â’u bryd ar ennill y tŵr, ac wrth gryfder ar dorri i mewn i’r drws nesaf allan, ac yn peri cyrchu tân i’w losgi; efe, pan oeddynt o bob tu yn ymyl ei ddal, a syrthiodd ar ei gleddyf ei hun;

42Gan fod yn well ganddo farw yn wrol, na’i ddarostwng dan y rhai ysgeler hynny, a goddef traha anweddaidd i’w fonedd.

43Ond pan fethodd ganddo gael ei ddyrnod yn union, a’r lliaws hefyd yn rhuthro i mewn i’r drysau, efe a redodd yn hy i’r gaer, ac a’i bwriodd ei hun yn wrol bendramwnwgl ymysg y dorf.

44Ond pan giliasant hwy yn fuan yn ôl, ac ymrannu, efe a syrthiodd i lawr i’r gwagle.

45Er hynny ac efe eto yn fyw, yn llosgi o lid, efe a gododd i fyny: ac er bod ei waed yn rhedeg fel ffrydiau, a’i welïau yn ofidus, eto efe a redodd trwy ganol yr ymwasg, ac a safodd ym mhen craig uchel:

46Wedi yr awron golli ei waed oll, efe a dynnodd allan ei berfedd, ac a’u cymerth hwy yn ei ddwylo, ac a’u taflodd at y dyrfa: a chan alw ar Arglwydd y bywyd a’r ysbryd, ar iddo eu rhoddi hwynt iddo drachefn, efe a fu farw fel hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help