2 Brenhinoedd 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac Eliseus y proffwyd a alwodd un o feibion y proffwydi, ac a ddywedodd wrtho, Gwregysa dy lwynau, a chymer y ffiolaid olew hon yn dy law, a dos i Ramoth-gilead.

2A phan ddelych yno, edrych yno am Jehu mab Jehosaffat, mab Nimsi; a dos i mewn, a phâr iddo godi o fysg ei frodyr, a dwg ef i ystafell ddirgel:

3Yna cymer y ffiolaid olew, a thywallt ar ei ben ef, a dywed, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel; yna agor y drws, a ffo, ac nac aros.

4Felly y llanc, sef llanc y proffwyd, a aeth i Ramoth-gilead.

5A phan ddaeth efe, wele, tywysogion y llu oedd yn eistedd: ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air â thi, O dywysog. A dywedodd Jehu, A pha un ohonom ni oll? Dywedodd yntau, A thydi, O dywysog.

6Ac efe a gyfododd, ac a aeth i mewn i’r tŷ: ac yntau a dywalltodd yr olew ar ei ben ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar bobl yr ARGLWYDD, sef ar Israel.

7A thi a drewi dŷ Ahab dy arglwydd; fel y dialwyf fi waed fy ngweision y proffwydi, a gwaed holl weision yr ARGLWYDD, ar law Jesebel.

8Canys holl dŷ Ahab a ddifethir: a mi a dorraf ymaith oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r hwn a adawyd yn Israel.

9A mi a wnaf dŷ Ahab fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahïa.

10A’r cŵn a fwytânt Jesebel yn rhandir Jesreel, ac ni bydd a’i claddo hi. Ac efe a agorodd y drws, ac a ffodd.

11A Jehu a aeth allan at weision ei arglwydd, a dywedwyd wrtho ef, A yw pob peth yn dda? paham y daeth yr ynfyd hwn atat ti? Dywedodd yntau wrthynt, Chwi a adwaenoch y gŵr, a’i ymadroddion.

12Dywedasant hwythau, Celwydd; mynega yn awr i ni. Dywedodd yntau, Fel hyn ac fel hyn y llefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel.

13A hwy a frysiasant, ac a gymerasant bob un ei wisg, ac a’i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau, ac a ganasant mewn utgorn, ac a ddywedasant, Jehu sydd frenin.

14A Jehu mab Jehosaffat mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Joram: (a Joram oedd yn cadw Ramoth-gilead, efe a holl Israel, rhag Hasael brenin Syria:

15Ond Joram y brenin a ddychwelasai i ymiacháu i Jesreel, o’r archollion â’r rhai yr archollasai y Syriaid ef wrth ymladd ohono yn erbyn Hasael brenin Syria.) A dywedodd Jehu, Os mynnwch chwi, nac eled un dihangol o’r ddinas i fyned i fynegi i Jesreel.

16Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd, ac a aeth i Jesreel; canys Joram oedd yn gorwedd yno. Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled â Joram.

17A gwyliwr oedd yn sefyll ar y tŵr yn Jesreel, ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled mintai. A Joram a ddywedodd, Cymer ŵr march, ac anfon i’w cyfarfod hwynt, a dyweded, Ai heddwch?

18A gŵr march a aeth i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i. A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd.

19Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march, ac efe a ddaeth atynt hwy, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i.

20A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Efe a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd: a’r gyriad sydd fel gyriad Jehu mab Nimsi; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd.

21A Joram a ddywedodd, Rhwym y cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jehu, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.

22A phan welodd Joram Jehu, efe a ddywedodd, A oes heddwch, Jehu? Dywedodd yntau, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di, a’i hudoliaeth, mor aml?

23A Joram a drodd ei law, ac a ffodd, ac a ddywedodd wrth Ahaseia, Y mae bradwriaeth, O Ahaseia.

24A Jehu a gymerth fwa yn ei law, ac a drawodd Joram rhwng ei ysgwyddau, fel yr aeth y saeth trwy ei galon ef, ac efe a syrthiodd yn ei gerbyd.

25A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, Cymer, bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad: canys cofia pan oeddem ni, mi a thi, yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o’r ARGLWYDD arno ef y baich hwn.

26Diau, meddai yr ARGLWYDD, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr ARGLWYDD. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

27Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny, efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd. A Jehu a ymlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywedodd, Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd. A hwy a’i trawsant ef yn rhiw Gur, yr hon sydd wrth Ibleam; ac efe a ffodd i Megido, ac a fu farw yno.

28A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod gyda’i dadau, yn ninas Dafydd.

29Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda.

30A phan ddaeth Jehu i Jesreel, Jesebel a glybu hynny, ac a golurodd ei hwyneb, ac a wisgodd yn wych am ei phen, ac a edrychodd trwy ffenestr.

31A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i’r porth, hi a ddywedodd, A fu heddwch i Simri, yr hwn a laddodd ei feistr?

32Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, Pwy sydd gyda mi, pwy? A dau neu dri o’r ystafellyddion a edrychasant arno ef.

33Yntau a ddywedodd, Teflwch hi i lawr. A hwy a’i taflasant hi i lawr; a thaenellwyd peth o’i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch: ac efe a’i mathrodd hi.

34A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a ddywedodd, Edrychwch am y wraig felltigedig honno, a chleddwch hi; canys merch brenin ydyw hi.

35A hwy a aethant i’w chladdu hi; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a’r traed, a chledrau’r dwylo.

36Am hynny hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef. Dywedodd yntau, Dyma air yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Yn rhandir Jesreel y bwyty y cŵn gnawd Jesebel:

37A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes, yn rhandir Jesreel; fel na ellir dywedyd, Dyma Jesebel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help