1Yn ôl hynny yr aeth Tobeias ymaith, gan foliannu Duw, o achos iddo lwyddo ei daith ef; ac efe a fendithiodd Raguel ac Edna ei wraig: ac yna efe a gerddodd rhagddo, oni ddaethant yn agos i Ninefe.
2Yna Raffael a ddywedodd wrth Tobeias, Ti a wyddost, fy mrawd, pa fodd y gadewaist dy dad.
3Brysiwn o flaen dy wraig, a threfnwn y tŷ;
4A chymer yn dy law fustl y pysgodyn. Ac felly yr aethant; a’r ci a’u canlynodd hwynt.
5Ac Anna oedd yn eistedd, ac yn disgwyl am ei mab ar y ffordd;
6Ac a’i hadnabu ef yn dyfod, ac a ddywedodd wrth ei dad ef, Wele dy fab di yn dyfod, a’r gŵr a aeth gydag ef.
7Yna y dywedodd Raffael, Mi a wn, Tobeias, yr egyr dy dad ei lygaid.
8Am hynny ir di ei lygaid ef â’r bustl; a phan ferwinont, efe a’u rhwbia hwynt, ac fe syrth y rhuchen ymaith, ac efe a’th wêl di.
9Yna y rhedodd Anna allan, a hi a syrthiodd ar wddf ei mab, gan ddywedyd wrtho, Mi a’th welais, fy mab, ac weithian bodlon ydwyf i farw. A hwy a wylasant ill dau.
10Tobit hefyd a aeth allan tua’r drws, ac a dramgwyddodd; ond ei fab a redodd ato,
11Ac a ymaflodd yn ei dad, ac a daenellodd beth o’r bustl ar lygaid ei dad, gan ddywedyd, Bydd gysurus, fy nhad.
12Ac wedi i’w lygaid ddechrau merwino, efe a’u dwys rwbiodd hwynt;
13A’r rhuchen a ddirisglodd ymaith oddi wrth giliau ei lygaid ef: ac wedi iddo weled ei fab, efe a syrthiodd ar ei wddf ef,
14Ac a wylodd, gan ddywedyd, Bendigedig wyt, O Dduw, a bendigedig yw dy enw yn dragywydd, a’th holl angylion sanctaidd sy fendigedig:
15Canys ti a’m ffrewyllaist, ac a dosturiaist wrthyf; wele fi yn gweled fy mab Tobeias. Yna yr aeth ei fab ef i mewn yn llawen, ac a ddangosodd i’w dad y mawr bethau a ddigwyddasai iddo ym Media.
16Yna yr aeth Tobit allan i gyfarfod â’i waudd hyd ym mhorth Ninefe, gan ymlawenhau a moliannu Duw. A rhyfedd oedd gan y rhai oedd yn edrych arno ef yn cerdded, ei fod ef yn gweled.
17A Thobit a gyffesodd yn eu gŵydd hwynt oll, ddarfod i Dduw dosturio wrtho. Ac wedi iddo nesáu at Sara ei waudd, efe a’i bendithiodd hi, gan ddywedyd, Croeso wrthyt, fy merch: bendigaid fyddo Duw, yr hwn a’th ddug di atom ni, a bendigedig fyddo dy dad a’th fam. A llawenydd oedd ymysg ei holl frodyr ef, y rhai oedd yn Ninefe.
18Ac Achiacarus a ddaeth yno, a Nasbas ei nai ef fab ei frawd.
19A neithior Tobeias a gadwyd â llawenydd mawr saith niwrnod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
