Numeri 32 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dir Jaser, a thir Gilead; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid.

2A meibion Gad a meibion Reuben a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleasar yr offeiriad, ac wrth benaduriaid y gynulleidfa, gan ddywedyd,

3Atoroth, a Dibon, a Jaser, a Nimra, a Hesbon, ac Eleale, a Sebam, a Nebo, a Beon,

4Sef y tir a drawodd yr ARGLWYDD o flaen cynulleidfa Israel, tir i anifeiliaid yw efe; ac y mae i’th weision anifeiliaid.

5A dywedasant, Os cawsom ffafr yn dy olwg, rhodder y tir hwn i’th weision yn feddiant: na phâr i ni fyned dros yr Iorddonen.

6A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Reuben, A â eich brodyr i’r rhyfel, ac a eisteddwch chwithau yma?

7A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i’r tir a roddodd yr ARGLWYDD iddynt?

8Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades-barnea i edrych y tir.

9Canys aethant i fyny hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonasant feibion Israel rhag myned i’r tir a roddasai yr ARGLWYDD iddynt.

10Ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD y dydd hwnnw; ac efe a dyngodd, gan ddywedyd,

11Diau na chaiff yr un o’r dynion a ddaethant i fyny o’r Aifft, o fab ugain mlwydd ac uchod, weled y tir a addewais trwy lw i Abraham, i Isaac, ac i Jacob: am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i:

12Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad, a Josua mab Nun; canys cyflawnasant wneuthur ar ôl yr ARGLWYDD.

13Ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD.

14Ac wele, chwi a godasoch yn lle eich tadau, yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwanegu ar angerdd llid yr ARGLWYDD wrth Israel.

15Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch, a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn.

16A hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i’n hanifeiliaid, a dinasoedd i’n plant.

17A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i’w lle eu hun; a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y tir.

18Ni ddychwelwn ni i’n tai, nes i feibion Israel berchenogi bob un ei etifeddiaeth.

19Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac oddi yno allan; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o’r tu yma i’r Iorddonen, tua’r dwyrain.

20A dywedodd Moses wrthynt, Os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i’r rhyfel o flaen yr ARGLWYDD,

21Os â pob un ohonoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, nes iddo yrru ymaith ei elynion o’i flaen,

22A darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd ac y byddwch dieuog gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron Israel; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr ARGLWYDD.

23Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr ARGLWYDD: a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi.

24Adeiledwch i chwi ddinasoedd i’ch plant, a chorlannau i’ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch genau.

25A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn.

26Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid a’n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead.

27A’th weision a ânt drosodd o flaen yr ARGLWYDD i’r rhyfel, pob un yn arfog i’r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.

28A gorchmynnodd Moses i Eleasar yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennau-cenedl llwythau meibion Israel, o’u plegid hwynt:

29A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i’r rhyfel o flaen yr ARGLWYDD, a darostwng y wlad o’ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth:

30Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan.

31A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd yr ARGLWYDD wrth dy weision, felly y gwnawn ni.

32Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr ARGLWYDD, fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen gennym ni.

33A rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff, frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.

34A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer,

35Ac Atroth, Soffan, a Jaaser, a Jogbea,

36A Beth-nimra, a Beth-haran, dinasoedd caerog; a chorlannau defaid.

37A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim;

38Nebo hefyd, a Baal-meon, (wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant.

39A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead, ac a’i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi.

40A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi.

41Ac aeth Jair mab Manasse, ac a enillodd eu pentrefydd hwynt, ac a’u galwodd hwynt Hafoth-jair.

42Ac aeth Noba, ac a enillodd Cenath a’i phentrefydd, ac a’i galwodd ar ei enw ei hun, Noba.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help