Ecclesiasticus (Sirach) 39 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 39

1Eithr yr hwn a roddo ei fryd ar gyfraith y Goruchaf, ac a fyfyrio ynddi, a gais ddoethineb y rhai oll a fuant gynt, ac a dreulia ei amser yn y proffwydi.

2Efe a geidw eiriau gwŷr enwog, ac a fydd lle y bo damhegion call.

3Efe a gais ddirgelwch diarhebion, ac a erys yng nghaled gwestiynau damhegion.

4Efe a wasanaetha ymysg pendefigion, ac a ymddengys yng ngŵydd tywysogion; efe a dramwya trwy wlad cenhedloedd dieithr: canys efe a brofodd y da a’r drwg ymysg dynion.

5Efe a rydd ei feddwl ar fyned yn fore at yr Arglwydd yr hwn a’i gwnaeth ef, ac efe a weddïa gerbron y Goruchaf, ac a egyr ei enau mewn gweddi, ac a ymbil dros ei bechodau.

6Pan fynno yr Arglwydd mawr, efe a lenwir ag ysbryd deall: efe a draetha eiriau doethion; ac yn ei weddi efe a folianna’r Arglwydd.

7Efe a gyfarwydda ei gyngor a’i wybodaeth ef; yn ei ddirgelwch ef y myfyria efe.

8Efe s ddengys addysg ei athrawiaeth, ac a lawenycha yng nghyfraith cyfamod yr Arglwydd.

9Llawer a ganmolant ei synnwyr ef, ac nis dileir hi byth: nid ymedy ei goffadwriaeth ef, eithr ei enw a bery yn oes oesoedd.

10Cenhedloedd a fynegant ei ddoethineb ef, a’r gynulleidfa a draetha ei glod ef.

11Efe a ad enw gwell na mil, o bydd efe marw; ac os byw fydd, efe a’i chwanega.

12Mynegaf eto yr hyn a feddyliais: oblegid yr ydwyf fi mor llawn â’r lleuad yn y llawnllonaid.

13Gwrandewch arnaf fi, chwi rai sanctaidd; blodeuwch fel rhosyn wedi ei blannu wrth afon y maes;

14A rhoddwch arogl peraidd fel thus, a dygwch flodau fel gardd lili; rhoddwch arogl, a chenwch fawl; a bendithiwch yr Arglwydd yn ei holl weithredoedd.

15Mawrygwch ei enw, a gosodwch allan ei fawl ef, gan ganu â gwefusau, ac â thelynau: a dywedwch yn eich clodforedd fel hyn:

16Holl weithredoedd yr Arglwydd ydynt dda odiaeth: a’i holl orchmynion ef a wneir mewn pryd.

17Ni all neb ddywedyd, Beth yw hyn? paham y mae hyn acw? canys mewn pryd y ceisir hwynt oll: wrth ei air ef y safodd y dwfr fel pentwr, a’r llynnau dyfroedd wrth air ei enau ef.

18Yn ei orchymyn ef y mae pob dim a ryglydda fodd iddo; ac nid oes a ddichon luddias ei iachawdwriaeth ef.

19Gweithredoedd pob cnawd sy ger ei fron ef, ac ni ellir cuddio dim rhag ei olwg ef.

20Y mae efe yn edrych o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb; ac nid oes dim rhyfedd ger ei fron ef.

21Nid rhaid gan hynny ddywedyd, Beth yw hyn? pam y mae hyn acw? oblegid efe a wnaeth bob peth i’r peth y mae yn rhaid iddo wrthynt.

22Ei fendith ef a orchuddiodd fel afon, ac a ddyfrhaodd y ddaear fel llif.

23Fel y trodd efe y dyfroedd yn halltineb: felly y caiff y Cenhedloedd ei ddig ef yn etifeddiaeth.

24Ei ffyrdd ef sydd union i’r rhai sanctaidd, a thramgwydd i’r anwir.

25Pethau da a grewyd o’r dechreuad i’r rhai da, a pethau niweidiol i bechaduriaid.

26Y pethau pennaf o angenrheidiau bywyd dyn, yw dwfr, tân, a haearn, a halen, a blawd gwenith, a llaeth, a mêl, a gwin, ac olew, a dillad.

27Y rhai hyn oll sy dda i’r duwiol; felly y troir hwynt yn niwed i’r pechaduriaid.

28Y mae ysbrydion a wnaed er dialedd, ac yn eu dig y cryfhânt hwy eu ffrewyllau: ac yn y diwedd hwy a dywalltant allan eu nerth, ac a ostegant lid yr hwn a’u gwnaeth.

29Tân, a môr, a newyn, a marwolaeth, y rhai hyn oll a wnaed er dialedd.

30Dannedd bwystfilod, a sgorpionau, a gwiberod, a’r cleddyf, sydd yn dial er dinistr ar yr annuwiolion.

31Byddant lawen pan gyfodo efe, a pharod fyddant ar y ddaear, pan fyddo rhaid wrthynt; a phan ddelo eu hamser, nid ânt hwy dros ei orchymyn ef.

32Am hyn yr ymnerthais i o’r dechreuad, ac a feddyliais am y pethau hyn, ac a’u gadewais mewn ysgrifen.

33Holl waith yr Arglwydd sy dda; ac efe a’u dyry hwy wrth bob rhaid yn eu hamser.

34Ni ellir dywedyd, Gwaeth yw hyn na hyn acw: oblegid cymeradwy fydd pob un yn ei amser.

35Am hynny yn awr â’r galon oll ac â’r genau canmolwch a bendithiwch enw’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help