Eseciel 32 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yn y deuddegfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

2Ha fab dyn, cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd, ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd: a daethost allan gyda’th afonydd; cythryblaist hefyd y dyfroedd â’th draed, a methraist eu hafonydd hwynt.

3Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat â chynulleidfa pobloedd lawer; a hwy a’th godant yn fy rhwyd i.

4Gadawaf di hefyd ar y tir, taflaf di ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti; ie, ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear.

5Rhoddaf hefyd dy gig ar y mynyddoedd, a llanwaf y dyffrynnoedd â’th uchder di.

6Mwydaf hefyd â’th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo, hyd y mynyddoedd; a llenwir yr afonydd ohonot.

7Ie, cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi, a thywyllaf eu sêr hwynt: yr haul a guddiaf â chwmwl, a’r lleuad ni wna i’w goleuni oleuo.

8Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuadau y nefoedd, a rhoddaf dywyllwch ar dy dir, medd yr Arglwydd DDUW.

9A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhedloedd i diroedd nid adnabuost.

10A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt, a’u brenhinoedd a ofnant yn fawr o’th blegid, pan wnelwyf i’m cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt; a hwy ar bob munud a ddychrynant, bob un am ei einioes, yn nydd dy gwymp.

11Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti.

12A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws, byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd; a hwy a anrheithiant falchder yr Aifft, a’i holl liaws hi a ddinistrir.

13Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer; ac ni sathr troed dyn hwynt mwy, ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt.

14Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfroedd hwynt, a gwnaf i’w hafonydd gerdded fel olew, medd yr Arglwydd DDUW.

15Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith, ac anrheithio y wlad o’i llawnder, pan drawyf y rhai oll a breswyliant ynddi, yna y cânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

16Dyma y galar a alarant amdani hi: merched y cenhedloedd a alarant amdani hi; galarant amdani hi, sef am yr Aifft, ac am ei lliaws oll, medd yr Arglwydd DDUW.

17Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn, ar y pymthegfed dydd o’r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

18Cwyna, fab dyn, am liaws yr Aifft, a disgyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i’r tir isaf, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll.

19Tecach na phwy oeddit? disgyn a gorwedd gyda’r rhai dienwaededig.

20Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd â’r cleddyf: i’r cleddyf y rhoddwyd hi; llusgwch hi a’i lliaws oll.

21Llefared cryfion y cedyrn wrthi hi o ganol uffern gyda’i chynorthwywyr: disgynasant, gorweddant yn ddienwaededig, wedi eu lladd â’r cleddyf.

22Yno y mae Assur a’i holl gynulleidfa, a’i feddau o amgylch; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf.

23Yr hon y rhoddwyd eu beddau yn ystlysau y pwll, a’i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a barasant arswyd yn nhir y rhai byw.

24Yno y mae Elam a’i holl liaws o amgylch ei bedd, wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i’r tir isaf, y rhai a barasant eu harswyd yn nhir y rhai byw; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll.

25Yng nghanol y rhai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd â’i holl liaws; a’i beddau o’i amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, a laddwyd â’r cleddyf: er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw, eto dygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef.

26Yno y mae Mesech, Tubal, a’i holl liaws; a’i beddau o amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, wedi eu lladd â’r cleddyf, er peri ohonynt eu harswyd yn nhir y rhai byw.

27Ac ni orweddant gyda’r cedyrn a syrthiasant o’r rhai dienwaededig, y rhai a ddisgynasant i uffern â’u harfau rhyfel: a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennau; eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgyrn hwy, er eu bod yn arswyd i’r cedyrn yn nhir y rhai byw.

28A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig, ac a orweddi gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf.

29Yno y mae Edom, a’i brenhinoedd, a’i holl dywysogion, y rhai a roddwyd â’u cadernid gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf: hwy a orweddant gyda’r rhai dienwaededig, a chyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll.

30Yno y mae holl dywysogion y gogledd, a’r holl Sidoniaid, y rhai a ddisgynnant gyda’r lladdedigion; gyda’u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorweddant hefyd yn ddienwaededig gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf, ac a ddygant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll.

31Pharo a’u gwêl hwynt, ac a ymgysura yn ei holl liaws, Pharo a’i holl lu wedi eu lladd â’r cleddyf, medd yr Arglwydd DDUW.

32Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw; a gwneir iddo orwedd yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf, sef i Pharo ac i’w holl liaws, medd yr Arglwydd DDUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help