1 Cronicl 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Satan a safodd i fyny yn erbyn Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel.

2A dywedodd Dafydd wrth Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch Israel o Beerseba hyd Dan; a dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt.

3A dywedodd Joab, Chwaneged yr ARGLWYDD ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy arglwydd frenin, onid gweision i’m harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel?

4Ond gair y brenin a fu drech na Joab: a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem.

5A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd. A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf; a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf.

6Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin.

7A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg DUW, ac efe a drawodd Israel.

8A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn ynfyd iawn.

9A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,

10Dos, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a’i gwnaf i ti.

11Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Cymer i ti.

12Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd; ai ynteu cleddyf yr ARGLWYDD, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd.

13A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr ARGLWYDD, canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn.

14Yna y rhoddes yr ARGLWYDD haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr.

15A DUW a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr ARGLWYDD a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad.

16A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau.

17A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O ARGLWYDD fy NUW, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.

18Yna angel yr ARGLWYDD a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i’r ARGLWYDD yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.

19A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr ARGLWYDD.

20Yna y trodd Ornan, ac a ganfu yr angel, a’i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith.

21A Dafydd a ddaeth at Ornan; ac edrychodd Ornan, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o’r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â’i wyneb tua’r ddaear.

22A dywedodd Dafydd wrth Ornan, Moes i mi le y llawr dyrnu, fel yr adeiladwyf ynddo allor i’r ARGLWYDD: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.

23Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd, Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a’r offer dyrnu yn gynnud, a’r gwenith yn fwyd-offrwm: hyn oll a roddaf.

24A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i’r ARGLWYDD yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad.

25Felly y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys.

26Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r ARGLWYDD, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr ARGLWYDD; ac efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm.

27A dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.

28Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i’r ARGLWYDD wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad, efe a aberthodd yno.

29Ond tabernacl yr ARGLWYDD, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon:

30Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn â DUW; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help