1Dy farnedigaethau di sydd fawr, ac ni ellir eu traethu: am hynny yr aeth y rhai annysgedig ar gyfeiliorn.
2Oblegid y rhai anwir yn amcanu gorthrymu’r genedl sanctaidd, wedi eu gwarchae yn eu tai yn garcharorion tywyllwch, a’u llyffetheirio â rhwymau hirnos, a orweddasant yno, yn ffoaduriaid oddi wrth y rhagluniaeth dragwyddol.
3Canys pan dybiasant hwy lechu mewn cuddiedig bechodau, dan dywyll orchudd angof, hwy a wasgarwyd, wedi eu dychrynu yn aruthrol, a’u trallodi gan weledigaethau dieithr.
4Canys ni allai’r gilfach a’u daliai hwynt eu cadw yn ddi-ofn: eithr yr oedd twrf yn swnio o’u hamgylch, yr hwn oedd yn eu blino hwynt, a gweledigaethau pruddaidd ag wyneb sarrug yn ymddangos iddynt.
5Nid oed dim gallu gan y tân i lewyrchu: ac ni allai ddisglair lewyrch y sêr oleuo’r nos erchyll honno.
6Eithr tân yn unig yn cynnau ohono ei hun, yn ofnadwy iawn, a ymddangosodd iddynt; wedi eu dychrynu hwynt â’r weledigaeth honno ni welid, hwy a dybiasant fod y pethau a welid yn waeth.
7Felly y bwriwyd i lawr oferedd celfyddyd hudoliaeth, a’r gwaradwyddus gerydd a gafodd y rhai a wnaent ffrost o’u doethineb.
8Oblegid y rhai a addawsant yrru ymaith ofn a blinder oddi wrth enaid llesg, a aethant yn llesg eu hun rhag ofn yr hwn y gellid chwerthin am ei ben.
9Oherwydd er nad oedd dim erchyll yn eu hofni hwynt; er hynny wedi eu dychrynu wrth fynediad bwystfilod heibio, a chwibaniad seirff,
10Buant feirw o ofn, gan omedd edrych ar yr awyr, yr hwn nid oedd le i’w ochelyd.
11Canys peth ofnus yw drygioni, wedi rhoddi barn i’w erbyn wrth ei dystiolaeth ei hun; a’r gydwybod yn gwasgu arno sydd yn darogan pethau blin yn wastadol.
12Canys nid yw ofn ddim, ond bradychu yr help a gaffer gan reswm.
13A’r disgwyliad oddi fewn yn llai, a gyfrif yr anwybodaeth yn fwy na’r achos yr hwn sydd yn peri blinder.
14Eithr hwynt yn cysgu yr un hun y noson honno, yr hon ni ellid yn ddiau ei dioddef, ac a ddaethai arnynt o waelodion uffern anocheladwy,
15Weithiau a flinid â gweledigaethau rhyfedd, ac weithiau a lewygent gan ball calon: canys ofn disymwth, ac heb edrych amdano, a ddaeth arnynt.
16Felly pwy bynnag a syrthiai yno, efe a gedwid, ac a gaeid mewn carchar heb haearn.
17Canys pa un bynnag ai llafurwr fyddai un, neu fugail, neu un yn gwneuthur y gwaith sydd yn y diffeithwch, pan ddelid ef, efe a ddioddefai yr angen nis gellid ei ochelyd: oblegid ag un gadwyn tywyllwch y rhwymid hwynt oll.
18Pa un bynnag ai gwynt chwiban, ai hyfrydaidd sain adar ymysg y canghennau tewion, ai cysain dwfr yn cerdded yn chwyrn,
19Ai sŵn erchyll creigiau a fwrid i lawr, ai rhedfa anifeiliaid yn moelystota heb eu gweled, ai llais creulon bwystifilod rhuadwy, ai carreg lefain yn datseinio o ogofeydd y mynyddoedd; y pethau hyn a’u dychrynai hwy, fel y llewygent.
20Canys yr holl fyd o oleuid yn olau ddisglair, ac ni rwystrid neb yn eu gwaith:
21Yn unig arnynt hwy y daethai nos drom, cyffelybrwydd i’r tywyllwch a ddeuai arnynt; eithr yr oeddynt iddynt eu hunain yn flinach na’r tywyllwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.