1A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2Proffwyda, fab dyn, yn erbyn proffwydi Israel, y rhai sydd yn proffwydo, a dywed wrth y rhai a broffwydant o’u calon eu hun, Gwrandewch air yr ARGLWYDD.
3Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gwae y proffwydi ynfyd, y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun, ac heb weled dim.
4Dy broffwydi, Israel, ydynt fel llwynogod yn yr anialwch.
5Ni safasoch yn yr adwyau, ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel, i sefyll yn y rhyfel ar ddydd yr ARGLWYDD.
6Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, Dywedodd yr ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD heb eu hanfon hwynt: a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair.
7Onid ofer weledigaeth a welsoch, a gau ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, Yr ARGLWYDD a ddywedodd; a minnau heb ddywedyd?
8Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Am lefaru ohonoch wagedd, a gweled ohonoch gelwydd; am hynny wele fi i’ch erbyn, medd yr ARGLWYDD DDUW.
9A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen tŷ Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.
10O achos, ie, o achos hudo ohonynt fy mhobl, gan ddywedyd, Heddwch; ac nid oedd heddwch; un a adeiladai bared, ac wele eraill yn ei briddo â chlai heb ei dymheru.
11Dywed wrth y rhai a’i priddant â phridd rhydd, y syrth efe: canys curlaw a fydd, a chwithau gerrig cenllysg a syrthiwch; a gwynt tymhestlog a’i rhwyga.
12Wele, pan syrthio y pared, oni ddywedir wrthych, Mae y clai â’r hwn y priddasoch ef?
13Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Minnau a’i rhwygaf â gwynt tymhestlog yn fy llid; a churlaw fydd yn fy nig, a cherrig cenllysg yn fy llidiowgrwydd, i’w ddifetha.
14Felly y bwriaf i lawr y pared a briddasoch â phridd heb ei dymheru, ac a’i tynnaf hyd lawr, fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth, a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef; a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
15Fel hyn y gorffennaf fy llid ar y pared, ac ar y rhai a’i priddasant â phridd heb dymheru; a dywedaf wrthych, Y pared nid yw, na’r rhai a’i priddasant:
16Sef proffwydi Israel, y rhai a broffwydant am Jerwsalem, ac a welant iddi weledigaethau heddwch, ac nid oes heddwch, medd yr ARGLWYDD DDUW.
17Tithau fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl, y rhai a broffwydant o’u calon eu hun; a phroffwyda yn eu herbyn hwynt,
18A dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gwae y gwniadyddesau clustogau dan holl benelinoedd fy mhobl, a’r rhai a weithiant foledau am ben pob corffolaeth, i hela eneidiau. Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi, ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddêl atoch?
19Ac a halogwch chwi fi ymysg fy mhobl er dyrneidiau o haidd, ac am dameidiau o fara, i ladd yr eneidiau ni ddylent farw, a chadw yn fyw yr eneidiau ni ddylent fyw, gan ddywedyd ohonoch gelwydd wrth fy mhobl, y rhai a wrandawent gelwydd?
20Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn erbyn eich clustogau chwi, â’r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau, i beri iddynt ehedeg, a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau; a gollyngaf yr eneidiau, sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela, i beri iddynt ehedeg.
21Rhwygaf hefyd eich moledau chwi, a gwaredaf fy mhobl o’ch llaw, ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa; a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
22Am dristáu calon y cyfiawn trwy gelwydd, a minnau heb ei ofidio ef; ac am gadarnhau dwylo yr annuwiol, fel na ddychwelai o’i ffordd ddrygionus, trwy addo iddo einioes;
23Oherwydd hynny ni welwch wagedd, ac ni ddewiniwch ddewiniaeth mwy; canys gwaredaf fy mhobl o’ch llaw chwi; a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.