Y Salmau 125 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 125Caniad y graddau.

1Y rhai a ymddiriedant yn yr ARGLWYDD, fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.

2Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr ARGLWYDD o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.

3Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd.

4O ARGLWYDD, gwna ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau.

5Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd, yr ARGLWYDD a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help