Job 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,

2Oni atebir amlder geiriau? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus?

3Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a’th waradwyddo?

4Canys dywedaist, Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di.

5Ond, O na lefarai DUW, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn,

6A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i DDUW ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd.

7A elli di wrth chwilio gael gafael ar DDUW? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd?

8Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod?

9Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear, ac yn lletach na’r môr.

10Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a’i rhwystra ef?

11Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny?

12Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt.

13Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef;

14Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai:

15Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni:

16Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef.

17Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd.

18Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch.

19Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a’th ddychryno, a llawer a ymbiliant â’th wyneb.

20Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help