Y Salmau 107 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 107

1Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2Felly dyweded gwaredigion yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;

3Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau.

4Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:

5Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt.

6Yna y llefasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau;

7Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.

8O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!

9Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.

10Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:

11Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau DUW, a dirmygu cyngor y Goruchaf.

12Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.

13Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.

14Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt.

15O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!

16Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.

17Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.

18Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.

19Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.

20Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a’u gwaredodd o’u dinistr.

21O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!

22Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.

23Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i’r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.

24Hwy a welant weithredoedd yr ARGLWYDD, a’i ryfeddodau yn y dyfnder.

25Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.

26Hwy a esgynnant i’r nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.

27Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd.

28Yna y gwaeddant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau.

29Efe a wna yr ystorm yn dawel; a’i thonnau a ostegant.

30Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent.

31O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!

32A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

33Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;

34A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.

35Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr.

36Ac yno y gwna i’r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:

37Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.

38Ac efe a’u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau.

39Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.

40Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.

41Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.

42Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.

43Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help