1Achub fi, O DDUW, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid.
2 DUW, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau.
3Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant DDUW o’u blaen. Sela.
4Wele, DUW sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid.
5Efe a dâl ddrwg i’m gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd.
6Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O ARGLWYDD; canys da yw.
7Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
