1A Joseias a gadwodd ŵyl y Pasg i’w Arglwydd yn Jerwsalem, ac a offrymodd yr oen Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf;
2Ac a gyfleodd yr offeiriaid yn eu beunyddiol oruchwyliaethau, wedi eu dilladu mewn gwisgoedd llaesion yn nhŷ’r Arglwydd.
3Ac efe a ddywedodd wrth y Lefiaid, sanctaidd weinidogion Israel, am iddynt eu sancteiddio eu hunain i’r Arglwydd, i osod arch sanctaidd yr Arglwydd yn y tŷ a adeiladasai’r brenin Salomon mab Dafydd,
4Gan ddywedyd, Na fydded hi mwyach yn faich i chwi ar ysgwydd: gwasanaethwch yn awr yr Arglwydd eich Duw, a gofelwch am ei bobl ef Israel, ac ymbaratowch trwy eich teuluoedd, yn ôl eich dosbarthiadau, fel y sgrifennodd Dafydd brenin Israel, ac yn ôl mawredd Salomon ei fab ef.
5A sefwch yn y deml, yn ôl dosbarthiad teulu eich tadau chwi y Lefiaid, gerbron eich brodyr meibion Israel.
6Mewn trefn offrymwch y Pasg, a pharatowch yr aberthau i’ch brodyr; a chedwch y Pasg yn ôl gorchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.
7A Joseias a roddodd i’r bobl oedd yn bresennol ddeng mil ar hugain o ŵyn a mynnod, a thair mil o eidionau: hyn o gyfoeth y brenin a roddwyd i’r bobl, ac i’r offeiriaid, ac i’r Lefiaid, yn ôl yr addewid.
8Yna Helcias, a Sachareias, a Syelus, llywodraethwyr y deml, a roddasant i’r offeiriaid tuag at y Pasg ddwy fil a chwe chant o ddefaid, a thri chant o eidionau.
9Jechoneias hefyd, a Samaias, a Nathanael ei frawd, a Sabaias, ac Ochiel, a Joram, milwriaid, a roddasant i’r Lefiaid ynghyfer y Pasg, bum mil o ddefaid, a seithgant o eidionau.
10Pan orffennwyd hyn yn drefnus, yr offeiriaid a’r Lefiaid a safasant trwy’r llwythau, a chanddynt fara croyw;
11Yn ôl dosbarthiadau teuluoedd eu tadau, yng ngŵydd y bobl, i offrymu i’r Arglwydd, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Moses: ac felly y gwnaethant y bore.
12A hwy a rostiasant yr oen Pasg wrth dân yn ôl y ddefod, a’r offrymau a ferwasant gyda pheraroglau mewn pedyll a chrochanau, ac a’u rhoddasant gerbron yr holl bobl:
13Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain, ac i’w brodyr yr offeiriaid, meibion Aaron:
14Canys yr offeiriaid a offryment y braster hyd yr hwyr: a’r Lefiaid a baratöent iddynt eu hunain, ac i’w brodyr yr offeiriaid, meibion Aaron.
15A’r cantorion sanctaidd, meibion Asaff, oedd yn eu cyfle, yn ôl gorchymyn Dafydd, sef Asaff, Sachareias, a Jedwthwn, gweledydd y brenin.
16A’r porthorion oedd ym mhob porth: ni chaent hwy ymado o’u gwasanaeth; canys eu brodyr y Lefiaid a baratöent iddynt hwy.
17Felly y gorffennwyd holl wasanaeth yr Arglwydd y dwthwn hwnnw,
18Gan gynnal y Pasg, ac offrymu poethoffrymau ar allor yr Arglwydd, yn ôl gorchymyn y brenin Joseias.
19Felly meibion Israel, y rhai oedd bresennol, a gynaliasant y Pasg yr amser hwnnw, a gŵyl y bara croyw, dros saith niwrnod.
20Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er amser Samuel y proffwyd.
21Ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel y cyffelyb Basg ag a gynhaliodd Joseias, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r Iddewon, a holl Israel, a’r rhai oedd bresennol o drigolion Jerwsalem.
22Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseias y cynhaliwyd y Pasg hwnnw.
23A gweithredoedd Joseias oeddynt uniawn gerbron ei Arglwydd, â chalon gyflawn o dduwioldeb.
24Ac am y pethau a ddigwyddasant yn ei amser ef, y maent yn ysgrifenedig o’r blaen, o ran y rhai a bechasant, ac a fuant annuwiol yn erbyn yr Arglwydd, rhagor pob cenedl a theyrnas, gan ei dristáu ef yn ddirfawr, fel y cyfododd geiriau’r Arglwydd yn erbyn Israel.
25Wedi darfod i Joseias y pethau hyn, y digwyddodd i Pharo brenin yr Aifft ddyfod i ryfela yn erbyn Carchamis ar Ewffrates; a Joseias a aeth i’w gyfarfod ef.
26Ond brenin yr Aifft a anfonodd ato ef, gan ddywedyd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, brenin Jwdea?
27Nid yn dy erbyn di y’m gyrrodd yr Arglwydd Dduw; ond fy rhyfel i sydd ar Ewffrates. Ac yn awr yr Arglwydd sy gyda mi, a’r arglwydd sydd gyda mi yn peri i mi frysio: ymado â mi, ac na wrthwyneba’r Arglwydd.
28Ond ni throai Joseias ei gerbyd oddi wrtho ef, eithr efe a ymdaclodd i ymladd ag ef, heb ystyried geiriau Jeremi y proffwyd o enau yr Arglwydd.
29Ac efe a fyddinodd yn ei erbyn yn nyffryn Megido. A’r tywysogion a ddaethant i waered at y brenin Yoseias.
30A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch fi allan o’r gad; canys yr ydwyf yn llesg iawn. Ac yn ebrwydd ei weision a’i dygasant ef allan o’r gad.
31Yna efe a esgynnodd i’w ail gerbyd; ac wedi iddo ddychwelyd i Jerwsalem, efe a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau.
32A thrwy holl Jwda y galarwyd am Joseias; a Jeremi y proffwyd a alarnadodd am Joseias, a’r llywodraethwyr a’u gwragedd a wnaethant gwynfan mawr am Joseias, hyd y dydd heddiw. Ac fe aeth hynny yn ddefod i’w wneuthur yn wastad ymhlith holl genedl Israel.
33Y mae’r pethau hyn yn ysgrifenedig yn llyfr historïau brenhinoedd Jwda, a phob gweithred a’r a wnaeth Joseias; a’i ogoniant, a’i wybodaeth yng nghyfraith yr Arglwydd, a’r pethau a wnaethai efe o’r blaen, a’r pethau a hysbyswyd y pryd hyn, sy’n ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.
34A’r bobl a gymerasant Joachas fab Joseias, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Joseias ei dad, pan oedd efe yn dair blwydd ar hugain o oed.
35Ac efe a deyrnasodd yn Jwdea ac yn Jerwsalem dri mis: ac yna brenin yr Aifft a’i tynnodd ef ymaith o deyrnasu yn Jerwsalem.
36Ac efe a drethodd ar y wlad gan talent o arian, ac un dalent o aur.
37A brenin yr Aifft a wnaeth Joacim ei frawd ef yn frenin Jwdea a Jerwsalem.
38Ac efe a rwymodd Joacim a’r llywodraethwyr: ac efe a ddaliodd Saraces ei frawd, ac a’i dug ef ymaith i’r Aifft.
39Joacim oedd bum mlwydd ar hugain pan ddechreuodd efe deyrnasu yn Jwdea a Jerwsalem; ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.
40Am hynny Nabuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, ac a’i rhwymodd ef â chadwyn bres, ac a’i dug ef ymaith i Babilon.
41Yna Nabuchodonosor a gymerth o lestri sanctaidd yr Arglwydd, ac a’u dug hwynt ymaith, ac a’u rhoddes yn ei deml ei hun o fewn Babilon.
42Ond ei holl weithredoedd ef, a’i halogedigaeth, a’i anwiredd, sydd yn ysgrifenedig yng Nghroniclau’r brenhinoedd.
43A Joacim ei fab a deyrnasodd yn ei le ef: a deunaw mlwydd oed oedd efe, pan urddwyd ef yn frenin:
44A thri mis a deng niwrnod y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac yntau a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.
45Felly ymhen y flwyddyn Nabuchodonosor a anfonodd, ac a’i dug ef i Babilon, gyda llestri sanctaidd yr Arglwydd;
46Ac a wnaeth Sedeceias yn frenin Jwdea a Jerwsalem, pan oedd efe yn un mlwydd ar hugain o oed; ac efe a deyrnasodd un mlynedd ar ddeg.
47Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd; ac nid ofnodd y geiriau a ddywedasai Jeremi y proffwyd wrtho o enau’r Arglwydd.
48Ac yn ôl iddo fod wedi ei dyngu i Nabuchodonosor, efe a dyngodd anudon i enw’r Arglwydd, ac a wrthryfelodd, ac a galedodd ei war a’i galon, as a droseddodd gyfreithiau Arglwydd Dduw Israel.
49A phenaethiaid y bobl a’r offeiriaid a wnaethant lawer o anwiredd yn erbyn y cyfreithiau, ac a ragorasant ar holl frynti’r holl genhedloedd, ac a halogasant deml yr Arglwydd yr hon a gysegrasid yn Jerwsalem.
50Er hynny Duw eu tadau a ddanfonodd ei gennad i’w galw hwy drachefn, am iddo fod yn eu harbed hwynt, a’i dabernacl ei hun.
51Ond hwynt-hwy a watwarent ei genhadau ef; a’r dydd yr ymddiddanai’r Arglwydd â hwynt, hwy a watwarent ei broffwydi ef.
52O’r diwedd, efe a ddicllonodd wrth ei bobl am eu camweddau mawrion, ac a barodd i frenhinoedd y Caldeaid ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt.
53Y rhai hyn a laddasant eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf o fewn amgylchoedd eu teml sanctaidd, ac ni pharchasant na gŵr ieuanc, na morwyn, na henwr, na phlentyn, yn eu plith hwynt.
54Eithr efe a’u rhoddes hwynt oll yn eu dwylo hwy, a holl lestri sanctaidd yr Arglwydd, mawrion a bychain, a llestri arch Duw; a thrysorau’r brenin a gymerasant hwy, ac a ddygasant ymaith i Babilon.
55A hwy a losgasant deml yr Arglwydd, ac a dorasant i lawr furiau Jerwsalem, ac a losgasant ei thyrau â thân.
56Difwynasant hefyd ei holl bethau gwerthfawr, ac a’u dinistriasant: ac efe a ddug ymaith y rhai a weddillasai’r cleddyf, i Babilon;
57Y rhai a fuant yn gaethweision iddo ef ac i’w feibion, nes teyrnasu o’r Persiaid; fel y cyflawnid gair yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe trwy enau Jeremi;
58Fel y mwynhâi’r wlad ei Sabothau, yr holl amser y bu hi yn ddiffeithwch, ac y gorffwysai hyd oni chyflawnid deng mlynedd a thrigain.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.