Numeri 36 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pennau-cenedl tylwyth meibion Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth meibion Joseff, a ddaethant hefyd, ac a lefarasant gerbron Moses, a cherbron y penaduriaid, sef pennau-cenedl meibion Israel;

2Ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD a orchmynnodd i’m harglwydd roddi’r tir yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren: a’m harglwydd a orchmynnwyd gan yr ARGLWYDD, i roddi etifeddiaeth Salffaad ein brawd i’w ferched.

3Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni, ac a’i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt: a phrinheir ar randir ein hetifeddiaeth ni.

4A phan fyddo y jiwbili i feibion Israel, yna y chwanegir eu hetifeddiaeth hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni.

5A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Mae llwyth meibion Joseff yn dywedyd yn uniawn.

6Dyma y gair a orchmynnodd yr ARGLWYDD am ferched Salffaad, gan ddywedyd, Byddant wragedd i’r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun; ond i rai o dylwyth llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd.

7Felly ni threigla etifeddiaeth meibion Israel o lwyth i lwyth: canys glynu a wna pob un o feibion Israel yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun.

8A phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel, a fydd wraig i un o dylwyth llwyth ei thad ei hun; fel yr etifeddo meibion Israel bob un etifeddiaeth ei dadau ei hun.

9Ac na threigled etifeddiaeth o lwyth i lwyth arall; canys llwythau meibion Israel a lynant bob un yn ei etifeddiaeth ei hun.

10Megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, felly y gwnaeth merched Salffaad.

11Canys Mala, Tirsa, a Hogla, a Milca, a Noa, merched Salffaad, fuant yn wragedd i feibion eu hewythredd.

12I wŷr o dylwyth Manasse fab Joseff y buant yn wragedd; a thrigodd eu hetifeddiaeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tad.

13Dyma’r gorchmynion a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i feibion Israel, trwy law Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help