2 Samuel 23 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Dyma eiriau diwethaf Dafydd. Dywedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog DUW Jacob, a pheraidd ganiedydd Israel;

2Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd ynof fi, a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod.

3DUW Israel a ddywedodd wrthyf fi, Craig Israel a ddywedodd, Bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn ofn DUW:

4Ac efe a fydd fel y bore-oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o’r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw.

5Er nad yw fy nhŷ i felly gyda DUW; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a’m holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.

6A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt.

7Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn, ac â phaladr gwaywffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle.

8Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith.

9Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhlith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith.

10Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf: a’r ARGLWYDD a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio.

11Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A’r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o’r maes yn llawn o ffacbys: a’r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid.

12Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a’i hachubodd, ac a laddodd y Philistiaid. Felly y gwnaeth yr ARGLWYDD ymwared mawr.

13A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.

14A Dafydd oedd yna mewn amddiffynfa: a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Bethlehem.

15A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a’m dioda i â dwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth?

16A’r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant hefyd, ac a’i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a’i diodoffrymodd ef i’r ARGLWYDD;

17Ac a ddywedodd, Na ato yr ARGLWYDD i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny.

18Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o’r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri.

19Onid anrhydeddusaf oedd efe o’r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf.

20A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.

21Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftiad, ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun.

22Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhlith y tri chadarn.

23Anrhydeddusach oedd na’r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a’i gosododd ef ar ei wŷr o gard.

24Asahel brawd Joab oedd un o’r deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad,

25Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,

26Heles y Paltiad, Ira mab Icces y Tecoiad,

27Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad,

28Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad,

29Heleb mab Baana y Netoffathiad, Ittai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin,

30Benaia y Pirathoniad, Hidai o afonydd Gaas,

31Abi-albon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad,

32Eliahba y Saalboniad; o feibion Jasen, Jonathan,

33Samma yr Harariad, Ahïam mab Sarar yr Harariad,

34Eliffelet mab Ahasbai, mab y Maachathiad, Elïam mab Ahitoffel y Giloniad,

35Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad,

36Igal mab Nathan o Soba, Bani y Gadiad,

37Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia,

38Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

39Ureias yr Hethiad: dau ar bymtheg ar hugain o gwbl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help