1Gwae di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio; a thi anffyddlon, er na wnaed yn anffyddlon â thi: pan ddarffo i ti anrheithio, y’th anrheithir; a phan ddarffo i ti fod yn anffyddlon, byddant anffyddlon i ti.
2ARGLWYDD, trugarha wrthym; wrthyt y disgwyliasom: bydd fraich iddynt bob bore, a’n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd.
3Wrth lais y twrf y gwibiodd y bobl; wrth ymddyrchafu ohonot y gwasgarwyd y cenhedloedd.
4A’ch ysbail a gynullir fel cynulliad lindys; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt.
5Dyrchafwyd yr ARGLWYDD; canys preswylio y mae yn yr uchelder: efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder.
6A sicrwydd dy amserau, a nerth iachawdwriaeth, fydd doethineb a gwybodaeth: ofn yr ARGLWYDD yw ei drysor ef.
7Wele, eu rhai dewrion a waeddant oddi allan: cenhadon heddwch a wylant yn chwerw.
8Aeth y priffyrdd yn ddisathr, darfu cyniweirydd llwybr: diddymodd y cyfamod, diystyrodd y dinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion.
9Galarodd a llesgaodd y ddaear; cywilyddiodd Libanus, a thorrwyd ef; Saron a aeth megis anialwch, ysgydwyd Basan hefyd a Charmel.
10Cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD: ymddyrchafaf weithian; ymgodaf bellach.
11Chwi a ymddygwch us, ac a esgorwch ar sofl; eich anadl fel tân a’ch ysa chwi.
12A’r bobloedd fyddant fel llosgfa calch, fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân.
13Gwrandewch, belledigion, yr hyn a wneuthum; a gwybyddwch, gymdogion, fy nerth.
14Pechaduriaid a ofnasant yn Seion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr: pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol?
15Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw trawster, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr, a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni;
16Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr.
17Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch: gwelant y tir pell.
18Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau?
19Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech.
20Gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o’i hoelion byth, ac ni thorrir un o’i rhaffau.
21Eithr yr ARGLWYDD ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a ffrydiau llydain: y rhwyflong nid â trwyddo, a llong odidog nid â drosto.
22Canys yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr, yr ARGLWYDD yw ein brenin; efe a’n ceidw.
23Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr, y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth.
24Ac ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf: maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.