Y Salmau 81 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 81I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff.

1Cenwch yn llafar i DDUW ein cadernid: cenwch yn llawen i DDUW Jacob.

2Cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl.

3Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl.

4Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i DDUW Jacob.

5Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn.

6Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau.

7Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela.

8Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf;

9Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.

10Myfi yr ARGLWYDD dy DDUW yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf.

11Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai.

12Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain.

13O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd!

14Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.

15Caseion yr ARGLWYDD a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd.

16Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help