Eseia 43 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt.

2Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tân, ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat.

3Canys myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat.

4Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y’th ogoneddwyd, a mi a’th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di.

5Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf.

6Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a’m merched o eithaf y ddaear;

7Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.

8Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt, a’r byddariaid sydd â chlustiau iddynt.

9Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o’r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw.

10Fy nhystion i ydych chwi, medd yr ARGLWYDD, a’m gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o’m blaen nid oedd DUW wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl.

11Myfi, myfi yw yr ARGLWYDD; ac nid oes geidwad ond myfi.

12Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a ddangosais, pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg: am hynny chwi ydych fy nhystion, medd yr ARGLWYDD, mai myfi sydd DDUW.

13Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid oes a wared o’m llaw: gwnaf, a phwy a’i lluddia?

14Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd chwi, Sanct Israel: Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid, a’r Caldeaid, sydd â’u bloedd mewn llongau.

15Myfi yr ARGLWYDD yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin chwi.

16Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion;

17Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a’r march, y llu a’r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant.

18Na chofiwch y pethau o’r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt.

19Wele fi yn gwneuthur peth newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.

20Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a’m gogoneddant; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch, a’r afonydd yn y diffeithwch, i roddi diod i’m pobl, fy newisedig.

21Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.

22Eithr ni elwaist arnaf, Jacob; ond blinaist arnaf, Israel.

23Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth, ac ni’m hanrhydeddaist â’th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni’th flinais ag arogl-darth.

24Ni phrynaist i mi galamus ag arian, ac ni’m llenwaist â braster dy ebyrth: eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu â’th bechodau, blinaist fi â’th anwireddau.

25Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau.

26Dwg ar gof i mi, cydymddadleuwn: adrodd di, fel y’th gyfiawnhaer.

27Dy dad cyntaf a bechodd, a’th athrawon a wnaethant gamwedd i’m herbyn.

28Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd-beth, ac Israel yn waradwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help