1Yna y mynegwyd i Oloffernes tywysog milwriaeth yr Asyriaid ddarfod i feibion Israel ymbaratoi i ryfel, a chau ohonynt hwy fylchau’r mynydd-dir, a murio holl gopa’r mynyddoedd uchel, a gosod rhwystrau yn y meysydd.
2Am hynny efe a ddigiodd yn ddirfawr, ac a alwodd am holl dywysogion Moab, a chapteiniaid Ammon, a holl lywodraethwyr y mordir;
3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mynegwch i mi, chwi feibion Canaan, pwy ydyw y bobl hyn sy’n preswylio yn y mynydd-dir, a pheth yw y dinasoedd y maent yn trigo ynddynt, a pha faint sydd yn eu llu hwynt, ac ym mha beth y mae eu cadernid a’u nerth hwynt, a pha frenin sydd arnynt, neu dywysog ar eu llu hwynt,
4A phaham y rhoesant eu bryd na ddeuent i’m cyfarfod i, yn amgenach na holl drigolion y gorllewin.
5Yna y dywedodd Achior tywysog holl feibion Ammon, Gwrandawed fy arglwydd air o enau dy was, a myfi a fynegaf i ti y gwirionedd am y bobl hyn sydd yn preswylio yn y mynydd-dir, yn gyfagos i’r lle yr wyt ti yn cyfanheddu: ac ni ddaw celwydd allan o enau dy was.
6Y bobl hyn sy o hiliogaeth y Caldeaid,
7Ac a fuant gynt yn trigo ym Mesopotamia, oherwydd na fynnent ganlyn duwiau eu tadau, y rhai oedd yng ngwlad Caldea.
8A hwy a aethant allan o ffordd eu rhieni, ac a addolasant Dduw y nefoedd, y Duw yr hwn a adwaenent: felly hwythau a’u bwriasant hwy o ŵydd eu duwiau; a hwythau a ffoesant i Mesopotamia, ac a wladychasant yno ddyddiau lawer.
9Yna eu Duw hwynt a orchmynnodd iddynt ymado o’r lle yr oeddynt yn aros ynddo, a myned i wlad Canaan; ac yno y trigasant, ac y cynyddasant o aur, ac arian, ac o anifeiliaid lawer iawn.
10Pan orchuddiasai newyn holl wlad Canaan, yna hwy a aethant i waered i’r Aifft, ac a arosasant yno, hyd oni ddychwelasant; a hwy a wnaed yno yn dyrfa fawr, fel nad oedd rifedi ar eu hiliogaeth hwynt.
11Am hynny brenin yr Aifft a gyfododd yn eu herbyn, ac a wnaeth yn ddichellgar â hwynt, ac a’u darostyngodd hwynt trwy lafur a phriddfeini, ac a’u gwnaeth yn gaethweision.
12Yna hwy a lefasant ar eu Duw; ac efe a drawodd holl wlad yr Aifft â phlâu, y rhai ni ellid eu hiacháu: felly yr Eifftiaid a’u bwriasant hwy allan o’u golwg.
13A Duw a sychodd y môr coch o’u blaen hwynt;
14Ac a’u dug hwy i fynydd Seina, a Chades-barne, ac a fwriodd ymaith yr holl rai oedd yn trigo yn yr anialwch.
15A hwy a breswyliasant wlad yr Amoriaid, ac a ddistrywiasant trwy eu cryfder y rhai oll o Esebon; a chan fyned dros yr Iorddonen hwy a etifeddasant yr holl fynydd-dir.
16A hwy a yrasant ymaith o’u blaen y Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, a’r Sichemiaid, a’r holl Gergesiaid, ac a breswyliasant yno ddyddiau lawer.
17A thra fuant hwy heb bechu gerbron eu Duw, hwy a lwyddasant; oherwydd y Duw, yr hwn sydd yn casáu anwiredd, oedd gyda hwynt.
18Ond pan giliasant hwy o’r ffordd a osodasai efe iddynt, hwy a ddistrywiwyd trwy ryfeloedd lawer iawn dros ben, ac a gaethgludwyd i wlad nid oedd eiddynt hwy; a theml eu Duw a fwriwyd i lawr, a’u dinasoedd a enillwyd gan y gelynion.
19Ac yn awr y dychwelasant at eu Duw, ac y daethant i fyny o’r wasgarfa lle y gwasgarasid hwynt, ac y meddianasant Jerwsalem, lle y mae eu cysegr hwynt, ac y trigasant yn y mynydddir; canys anghyfannedd fu.
20Yn awr gan hynny, fy llywydd a’m harglwydd, od oes amryfusedd yn y bobl hyn, ac o phechasant yn erbyn eu Duw, ystyriwn mai hyn fydd yn rhwystr iddynt; ac awn i fyny, a goresgynnwn hwynt.
21Eithr onid oes anwiredd yn eu cenedl hwynt, eled fy arglwydd heibio, rhag i’w Harglwydd eu hamddiffyn hwynt, ac i’w Duw fod drostynt, ac i ninnau fod yn waradwydd yng ngolwg yr holl fyd.
22A phan orffennodd Achior y geiriau hyn, yr holl bobl oedd yn sefyll o amgylch y babell a furmurasant: a phendefigion Oloffernes, a’r rhai oll oedd yn preswylio’r mordir, a Moab, a ddywedasant am ei ladd ef.
23Canys, eb hwynt, nid ofnwn ni rhag wynebau meibion Israel: oherwydd, wele, pobl ydynt hwy heb na nerth na chadernid yn erbyn llu mawr.
24Am hynny awn i fyny, a hwy a fyddant yn fwyd i’th lu di, O arglwydd Oloffernes.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.