1Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd,
2Am ddial dialeddau Israel, ac ymgymell o’r bobl, bendithiwch yr ARGLWYDD.
3Clywch, O frenhinoedd; gwrandewch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i’r ARGLWYDD; canaf fawl i ARGLWYDD DDUW Israel.
4O ARGLWYDD, pan aethost allan o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant, a’r cymylau a ddefnynasant ddwfr.
5Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr ARGLWYDD, sef y Sinai hwnnw, o flaen ARGLWYDD DDUW Israel.
6Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jael, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion.
7Y maestrefi a ddarfuant yn Israel: darfuant, nes i mi, Debora, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel.
8Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel?
9Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ymhlith y bobl. Bendithiwch yr ARGLWYDD.
10Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch.
11Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr ARGLWYDD, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr ARGLWYDD a ânt i waered i’r pyrth.
12Deffro, deffro, Debora; deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaethgluda dy gaethglud, O fab Abinoam.
13Yna y gwnaeth i’r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr ARGLWYDD a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn.
14O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ôl di, Benjamin, ymysg dy bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Sabulon.
15A thywysogion Issachar oedd gyda Debora; ie, Issachar, a Barac: efe a anfonwyd ar ei draed i’r dyffryn. Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.
16Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrando brefiadau y defaid? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.
17Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau.
18Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes.
19A brenhinoedd a ddaethant, ac a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymerasant elw o arian.
20O’r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera.
21Afon Cison a’u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid.
22Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau, carlamau ei gryfion ef.
23Melltigwch Meros, eb angel yr ARGLWYDD, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynhorthwy i’r ARGLWYDD, yn gynhorthwy i’r ARGLWYDD yn erbyn y cedyrn.
24Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell.
25Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn.
26Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a’i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr: a hi a bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef.
27Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymodd, yno y syrthiodd yn farw.
28Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy’r dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau?
29Ei harglwyddesau doethion a’i hatebasant; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun,
30Oni chawsant hwy? oni ranasant yr anrhaith, llances neu ddwy i bob gŵr? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera, anrhaith o wniadwaith symudliw, symudliw o wniadwaith o’r ddeutu, cymwys i yddfau yr anrheithwyr?
31Felly y darfyddo am dy holl elynion, O ARGLWYDD: a bydded y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.