1Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac arweiniais chwi i’r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth.
2Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon; ond bwriwch i lawr eu hallorau: eto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn?
3Am hynny y dywedais, Ni yrraf hwynt allan o’ch blaen chwi: eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau, a’u duwiau fydd yn fagl i chwi.
4A phan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth holl feibion Israel, yna y bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.
5Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim: ac yna yr aberthasant i’r ARGLWYDD.
6A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i’w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad.
7A’r bobl a wasanaethasant yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaethai efe er Israel.
8A bu farw Josua mab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn fab dengmlwydd a chant.
9A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-heres, ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.
10A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr ARGLWYDD, na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.
11A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim:
12Ac a wrthodasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o’u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr ARGLWYDD.
13A hwy a wrthodasant yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth.
14A llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.
15I ba le bynnag yr aethant, llaw yr ARGLWYDD oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr ARGLWYDD, ac fel y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.
16Eto yr ARGLWYDD a gododd farnwyr, y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr.
17Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD; ond ni wnaethant hwy felly.
18A phan godai yr ARGLWYDD farnwyr arnynt hwy, yna yr ARGLWYDD fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr ARGLWYDD a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr.
19A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig.
20A dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i’r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i’w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais;
21Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw:
22I brofi Israel trwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr ARGLWYDD, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio.
23Am hynny yr ARGLWYDD a adawodd y cenhedloedd hynny, heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.