1Yn yr wythfed mis o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,
2Llwyr ddigiodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau.
3Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch ataf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd.
4Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o’r blaen arnynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr ARGLWYDD.
5Eich tadau, pa le y maent hwy? a’r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth?
6Oni ddarfu er hynny i’m geiriau a’m deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Megis y meddyliodd ARGLWYDD y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.
7Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,
8Gwelais noswaith; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o’i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion.
9Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.
10A’r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr ARGLWYDD i ymrodio trwy y ddaear.
11A hwythau a atebasant angel yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.
12Ac angel yr ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn?
13A’r ARGLWYDD a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus.
14A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion:
15A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed.
16Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem.
17Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a’r ARGLWYDD a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto.
18A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn.
19A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem.
20A’r ARGLWYDD a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd.
21Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i’w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i’w gwasgaru hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.