Diarhebion 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef.

2Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb.

3Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt.

4Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau.

5Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus.

6Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni.

7Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir.

8Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef.

9Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth.

10Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd.

11Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi.

12Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn.

13Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth.

14Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch.

15Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel.

16Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a’r galluog a gânt gyfoeth.

17Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun.

18Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i’r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr.

19Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau.

20Ffiaidd gan yr ARGLWYDD y neb sydd gyndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd.

21Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir.

22Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr.

23Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter.

24Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi.

25Yr enaid hael a fraseir: a’r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd.

26Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a’i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a’i gwertho.

27Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw.

28Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen.

29Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt: a’r ffôl a fydd gwas i’r synhwyrol ei galon.

30Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a’r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth.

31Wele, telir i’r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i’r drygionus a’r pechadur?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help