Eseia 18 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwae y tir sydd yn cysgodi ag adenydd, yr hwn sydd tu hwnt i afonydd Ethiopia:

2Yr hwn a hebrwng genhadau hyd y môr, ac ar hyd wyneb y dyfroedd, mewn llestri brwyn, gan ddywedyd, Ewch, genhadon cyflym, at genhedlaeth wasgaredig ac ysbeiliedig, at bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenhedlaeth wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir.

3Holl drigolion y byd, a phreswylwyr y ddaear, gwelwch pan gyfodo efe faner ar y mynyddoedd, a chlywch pan utgano ag utgorn.

4Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Byddaf lonydd, a mi a ystyriaf yn fy annedd, megis gwres eglur ar lysiau, fel niwl gwlith yng ngwres cynhaeaf.

5Canys o flaen cynhaeaf, pan fyddo y blodeuyn yn berffaith, a’r grawnwin surion yn aeddfedu yn y blodeuyn: efe a dyr y brig â chrymanau, ac a dynn ymaith ac a dyr y canghennau.

6Gadewir hwynt ynghyd i adar y mynyddoedd, ac i anifeiliaid y ddaear: ac arnynt y bwrw yr adar yr haf, a holl anifeiliaid y ddaear a aeafa arnynt.

7Yr amser hwnnw y dygir rhodd i ARGLWYDD y lluoedd gan bobl wasgaredig ac ysbeiliedig, a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenedl wedi ei mesur a’i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir, i le enw ARGLWYDD y lluoedd, sef i fynydd Seion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help