1 Samuel 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A gwŷr Ciriath-jearim a ddaethant, ac a gyrchasant i fyny arch yr ARGLWYDD, ac a’i dygasant hi i dŷ Abinadab, yn y bryn, ac a sancteiddiasant Eleasar ei fab ef i gadw arch yr ARGLWYDD.

2Ac o’r dydd y trigodd yr arch yn Ciriath-jearim, y bu ddyddiau lawer; nid amgen nag ugain mlynedd: a holl dŷ Israel a alarasant ar ôl yr ARGLWYDD.

3A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD â’ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o’ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a’ch gwared chwi o law y Philistiaid.

4Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth, a’r ARGLWYDD yn unig a wasanaethasant.

5A dywedodd Samuel, Cesglwch holl Israel i Mispa, a mi a weddïaf drosoch chwi at yr ARGLWYDD.

6A hwy a ymgasglasant i Mispa, ac a dynasant ddwfr, ac a’i tywalltasant gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD. A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa.

7A phan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasglu i Mispa, arglwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny yn erbyn Israel: a meibion Israel a glywsant, ac a ofnasant rhag y Philistiaid.

8A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel, Na thaw di â gweiddi drosom at yr ARGLWYDD ein DUW, ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid.

9A Samuel a gymerth laethoen, ac a’i hoffrymodd ef i gyd yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD: a Samuel a waeddodd ar yr ARGLWYDD dros Israel; a’r ARGLWYDD a’i gwrandawodd ef.

10A phan oedd Samuel yn offrymu’r poethoffrwm, y Philistiaid a nesasant i ryfel yn erbyn Israel: a’r ARGLWYDD a daranodd â tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw, ac a’u drylliodd hwynt, a lladdwyd hwynt o flaen Israel.

11A gwŷr Israel a aethant o Mispa, ac a erlidiasant y Philistiaid, ac a’u trawsant hyd oni ddaethant dan Bethcar.

12A chymerodd Samuel faen, ac a’i gosododd rhwng Mispa a Sen, ac a alwodd ei enw ef Ebeneser; ac a ddywedodd, Hyd yma y cynorthwyodd yr ARGLWYDD nyni.

13Felly y darostyngwyd y Philistiaid, ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel: a llaw yr ARGLWYDD a fu yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel.

14A’r dinasoedd, y rhai a ddygasai y Philistiaid oddi ar Israel, a roddwyd adref i Israel, o Ecron hyd Gath; ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid: ac yr oedd heddwch rhwng Israel a’r Amoriaid.

15A Samuel a farnodd Israel holl ddyddiau ei fywyd.

16Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddyn oddi amgylch i Bethel, a Gilgal, a Mispa, ac a farnodd Israel yn yr holl leoedd hynny.

17A’i ddychwelfa ydoedd i Rama; canys yno yr oedd ei dŷ ef: yno hefyd y barnai efe Israel; ac yno yr adeiladodd efe allor i’r ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help