2 Samuel 13 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi.

2Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi.

3Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab Simea, brawd Dafydd: a Jonadab oedd ŵr call iawn.

4Ac efe a ddywedodd wrtho ef, Ti fab y brenin, paham yr ydwyt yn curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd.

5A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymer arnat fod yn glaf: a phan ddelo dy dad i’th edrych, dywed wrtho ef, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac y bwytawyf o’i llaw hi.

6Felly Amnon a orweddodd, ac a gymerth arno fod yn glaf. A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef; ac Amnon a ddywedodd wrth y brenin, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o’i llaw hi.

7Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, Dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo.

8Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymerth beilliaid, ac a’i tylinodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau.

9A hi a gymerth badell, ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddywedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef.

10Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i’r ystafell, fel y bwytawyf o’th law di. A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi, ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell.

11A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer.

12A hi a ddywedodd wrtho, Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn.

13A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o’r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, atolwg, â’r brenin: canys ni omedd efe fi i ti.

14Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a’i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi.

15Yna Amnon a’i casaodd hi â chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas â’r hwn y casasai efe hi, na’r cariad â’r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith.

16A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na’r llall a wnaethost â mi. Ond ni wrandawai efe arni hi.

17Eithr efe a alwodd ar ei lanc, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa’r drws ar ei hôl hi.

18Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw: canys â’r cyfryw fentyll y dilledid merched y brenin, y rhai oedd forynion. Yna ei weinidog ef a’i dug hi allan, ac a glodd y drws ar ei hôl hi.

19A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymaith dan weiddi.

20Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi? er hynny yn awr taw â sôn, fy chwaer: dy frawd di yw efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd.

21Ond pan glybu’r brenin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr.

22Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef.

23Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baal-hasor, yr hwn sydd wrth Effraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin.

24Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Wele yn awr rai yn cneifio i’th was di; deued, atolwg, y brenin a’i weision gyda’th was.

25A dywedodd y brenin wrth Absalom, Nage, fy mab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu daer arno: ond ni fynnai efe fyned; eithr efe a’i bendithiodd ef.

26Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni? A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, I ba beth yr â efe gyda thi?

27Eto Absalom a fu daer arno, fel y gollyngodd efe Amnon gydag ef, a holl feibion y brenin.

28Ac Absalom a orchmynnodd i’w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion.

29A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant.

30A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt.

31Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw, â’u gwisgoedd yn rhwygedig.

32A Jonadab mab Simea, brawd Dafydd, a atebodd ac a ddywedodd, Na thybied fy arglwydd iddynt hwy ladd yr holl lanciau, sef meibion y brenin; canys Amnon yn unig a fu farw: canys yr oedd ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef.

33Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn unig a fu farw.

34Ond Absalom a ffodd. A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef, ar hyd ystlys y mynydd.

35A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, Wele feibion y brenin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae.

36A phan orffenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn.

37Ac Absalom a ffodd, ac a aeth at Talmai mab Ammihud brenin Gesur: a Dafydd a alarodd am ei fab bob dydd.

38Ond Absalom a ffodd, ac a aeth i Gesur; ac yno y bu efe dair blynedd.

39Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gysurasid am Amnon, gan ei farw efe.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help