1Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth.
2Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawenychant: ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu, y bobl a ocheneidia.
3Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid, a ddifa ei dda.
4Brenin trwy farn a gadarnha y wlad: ond y neb a garo anrhegion, a’i dinistria hi.
5Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sydd yn taenu rhwyd i’w draed ef.
6Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl: ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen.
7Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion: ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod.
8Dynion gwatwarus a faglant ddinas: ond y doethion a droant ymaith ddigofaint.
9Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl, pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin, eto ni bydd llonyddwch.
10Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn: ond yr uniawn a gais ei enaid ef.
11Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a’i hatal hyd yn ôl.
12Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol.
13Y tlawd a’r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a’r ARGLWYDD a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau.
14Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth.
15Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam.
16Pan amlhao y rhai annuwiol, yr amlha camwedd: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy.
17Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i’th enaid.
18Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef.
19Ni chymer gwas addysg ar eiriau: canys er ei fod yn deall, eto nid etyb.
20A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef.
21Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o’i febyd, o’r diwedd efe a fydd fel mab iddo.
22Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a’r llidiog sydd aml ei gamwedd.
23Balchder dyn a’i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd.
24Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felltith, ac nis mynega.
25Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD a ddyrchefir.
26Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae barn pob dyn.
27Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
