Y Salmau 106 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 106

1Molwch yr ARGLWYDD. Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

2Pwy a draetha nerthoedd yr ARGLWYDD? ac a fynega ei holl fawl ef?

3Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser.

4Cofia fi, ARGLWYDD, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth.

5Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth.

6Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.

7Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch.

8Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid.

9Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch.

10Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn.

11A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt.

12Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.

13Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef.

14Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant DDUW yn y diffeithwch.

15Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid.

16Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr ARGLWYDD.

17Y ddaear a agorodd, ac a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram.

18Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol.

19Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd.

20Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt.

21Anghofiasant DDUW eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft;

22Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch.

23Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.

24Diystyrasant hefyd y tir dymunol: ni chredasant ei air ef:

25Ond grwgnachasant yn eu pebyll; ac ni wrandawsant ar lais yr ARGLWYDD.

26Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, i’w cwympo yn yr anialwch;

27Ac i gwympo eu had ymysg y cenhedloedd; ac i’w gwasgaru yn y tiroedd.

28Ymgysylltasant hefyd â Baal-peor, a bwytasant ebyrth y meirw.

29Felly y digiasant ef â’u dychmygion eu hun; ac y trawodd pla yn eu mysg hwy.

30Yna y safodd Phinees, ac a iawn farnodd: a’r pla a ataliwyd.

31A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder, o genhedlaeth i genhedlaeth byth.

32Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen; fel y bu ddrwg i Moses o’u plegid hwynt:

33Oherwydd cythruddo ohonynt ei ysbryd ef, fel y camddywedodd â’i wefusau.

34Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt:

35Eithr ymgymysgasant â’r cenhedloedd; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt:

36A gwasanaethasant eu delwau hwynt; y rhai a fu yn fagl iddynt.

37Aberthasant hefyd eu meibion a’u merched i gythreuliaid,

38Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion a’u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan: a’r tir a halogwyd â gwaed.

39Felly yr ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y puteiniasant gyda’u dychmygion.

40Am hynny y cyneuodd dig yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.

41Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y cenhedloedd; a’u caseion a lywodraethasant arnynt.

42Eu gelynion hefyd a’u gorthrymasant; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy.

43Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun, a hwy a wanychwyd am eu hanwiredd.

44Eto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt, pan glywodd eu llefain hwynt.

45Ac efe a gofiodd ei gyfamod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau:

46Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a’u caethiwai.

47Achub ni, O ARGLWYDD ein DUW, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant.

48Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help