Numeri 24 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pan welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr ARGLWYDD fendithio Israel; nid aeth efe, megis o’r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tua’r anialwch.

2A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ôl ei lwythau: a daeth ysbryd DUW arno ef.

3Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gŵr a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd;

4Gwrandawydd geiriau DUW a ddywedodd yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ei lygaid:

5Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob! dy gyfanheddau di, O Israel!

6Ymestynnant fel dyffrynnoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd.

7Efe a dywallt ddwfr o’i ystenau, a’i had fydd mewn dyfroedd lawer, a’i frenin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a’i frenhiniaeth a ymgyfyd.

8DUW a’i dug ef allan o’r Aifft; megis nerth unicorn sydd iddo: efe a fwyty y cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgyrn, ac â’i saethau y gwana efe hwynt.

9Efe a gryma, ac a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a’i cyfyd ef? Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melltigedig dy felltithwyr.

10Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a drawodd ei ddwylo ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regi fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a’u bendithiaist y tair gwaith hyn.

11Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y’th anrhydeddwn; ac wele, ataliodd yr ARGLWYDD di oddi wrth anrhydedd.

12A dywedodd Balaam wrth Balac, Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist ataf, gan ddywedyd,

13Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn droseddu gair yr ARGLWYDD, i wneuthur da neu ddrwg o’m meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr ARGLWYDD, hynny a lefaraf fi?

14Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, mi a fynegaf i ti yr hyn a wna’r bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau diwethaf.

15Ac efe a gymerth ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gŵr a agorwyd ei lygaid a ddywed;

16Dywedodd gwrandawydd geiriau DUW, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei lygaid:

17Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw seren o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a ddinistria holl feibion Seth.

18Ac Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchenogir gan ei elynion; ac Israel a wna rymuster.

19Ac arglwyddiaetha un o Jacob, ac a ddinistria y gweddill o’r ddinas.

20A phan edrychodd ar Amalec, efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Dechrau y cenhedloedd yw Amalec; a’i ddiwedd fydd darfod amdano byth.

21Edrychodd hefyd ar y Ceneaid; ac a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Cadarn yw dy annedd; gosod yr wyt dy nyth yn y graig.

22Anrheithir y Ceneaid, hyd oni’th gaethiwo Assur.

23Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo DUW hyn?

24Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymant Assur, ac a orthrymant Eber; ac yntau a dderfydd amdano byth.

25A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i’w ffordd yntau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help