Eseia 55 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1O Deuwch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth.

2Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster.

3Gogwyddwch eich clust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd.

4Wele, rhoddais ef yn dyst i’r bobl, yn flaenor ac yn athro i’r bobloedd.

5Wele, cenedl nid adwaeni a elwi, a chenhedloedd ni’th adwaenai di a red atat, er mwyn yr ARGLWYDD dy DDUW, ac oherwydd Sanct Israel: canys efe a’th ogoneddodd.

6Ceisiwch yr ARGLWYDD, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos.

7Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr ARGLWYDD, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein DUW ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth.

8Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr ARGLWYDD.

9Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi.

10Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i’r heuwr, a bara i’r bwytawr:

11Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o’m genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid.

12Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y’ch arweinir; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.

13Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd: a hyn fydd i’r ARGLWYDD yn enw, ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help