1Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,
2A wna gŵr lesâd i DDUW, fel y gwna y synhwyrol lesâd iddo ei hun?
3Ai digrifwch ydyw i’r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd?
4Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyda thi i farn?
5Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a’th anwireddau heb derfyn?
6Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos; a diosgaist ddillad y rhai noethion.
7Ni roddaist ddwfr i’w yfed i’r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog.
8Ond y gŵr cadarn, efe bioedd y ddaear; a’r anrhydeddus a drigai ynddi.
9Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd.
10Am hynny y mae maglau o’th amgylch, ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di;
11Neu dywyllwch rhag gweled ohonot: a llawer o ddyfroedd a’th orchuddiant.
12Onid ydyw DUW yn uchelder y nefoedd? gwêl hefyd uchder y sêr, mor uchel ydynt.
13A thi a ddywedi, Pa fodd y gŵyr DUW? a farn efe trwy’r cwmwl tywyll?
14Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd.
15A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir?
16Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy.
17Hwy a ddywedasant wrth DDUW, Cilia oddi wrthym: a pha beth a wna’r Hollalluog iddynt hwy?
18Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni: ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi.
19Y rhai cyfiawn a welant, ac a lawenychant: a’r diniwed a’u gwatwar hwynt.
20Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni, eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy.
21Ymarfer, atolwg, ag ef, a bydd heddychlon: o hyn y daw i ti ddaioni.
22Cymer y gyfraith, atolwg, o’i enau ef, a gosod ei eiriau ef yn dy galon.
23Os dychweli at yr Hollalluog, ti a adeiledir, symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai.
24Rhoddi aur i gadw fel pridd, ac aur Offir fel cerrig yr afonydd.
25A’r Hollalluog fydd yn amddiffyn i ti, a thi a gei amldra o arian.
26Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog, ac a ddyrchefi dy wyneb at DDUW.
27Ti a weddïi arno ef, ac efe a’th wrendy; a thi a deli dy addunedau.
28Pan ragluniech di beth, efe a sicrheir i ti; a’r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd.
29Pan ostynger hwynt, yna y dywedi di, Y mae goruchafiaeth; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg.
30Efe a wareda ynys y diniwed: a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
