Doethineb Solomon 13 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 13

1Ofer yn ddiau o naturiaeth yw’r dynion oll sydd heb adnabod Duw, heb fedru adnabod yr hwn sydd, wrth y pethau da a welir, ac ni adnabuant y gweithydd wrth ystyried y gwaith:

2Eithr hwy a dybiasant mai’r tân neu’r gwynt, neu’r awyr buan, neu gylch y sêr, neu ddwfr chwyrn, neu oleuadau’r nefoedd, oeddynt dduwiau yn llywodraethu’r byd.

3Os am fod yn hyfryd ganddynt degwch y rhai hyn, y cymerasant hwynt yn dduwiau; gwybyddant pa faint gwell yw eu Harglwydd hwynt: oblegid yr hwn sydd o naturiaeth yn Awdur tegwch, a’u creodd hwynt.

4Os eu gallu a’u gweithrediad sydd ryfedd ganddynt, ystyriant pa faint mwy yw gallu yr hwn a’u gwnaeth hwynt.

5Wrth faint a thegwch y pethau a grewyd, wrth eu cyffelybu, y gwelir yr hwn a’u gwnaeth hwynt.

6Er hynny yn hyn y mae bai y rhai hyn yn llai: canys y maent hwy mewn amryfus ond odid yn ceisio Duw, ac yn ewyllysio ei gael ef;

7Oblegid y maent hwy, trwy drin ei waith ef, yn chwilio yn ddyfal, ac yn coelio eu golwg; o achos bod y pethau a welir yn deg.

8Ac eto nid ydynt hwy esgusodol:

9Oblegid os gallent wybod cymaint â medru amcanu at y byd, paham na chawsant hwy yn gynt Arglwydd y pethau hyn?

10Eithr annedwydd ydynt hwy, a’u gobaith sy mewn pethau meirw, y rhai a alwasant waith dwylo dynion yn dduwiau, sef aur ac arian, pethau wedi eu dychymyg trwy gelfyddyd, a lluniau anifeiliaid, neu garreg ddi-fudd o waith hen law.

11Ac yn awr saer pren, wedi iddo lifio pren i’r gwaith, a thynnu o amgylch ei holl risgl ef yn gelfydd, a’i weithio yn gyfarwydd, a gwneuthur llestr buddiol i wasanaethu i fywyd dyn;

12Ac ymlenwi, wedi iddo dreulio ysglodion ei waith yn arlwyo ei fwyd;

13Ac yn cymryd yr hyn a fwrid ymaith ohonynt yn bren ystwyrgam di-fudd i ddim, eithr yn llawn cnapiau, a’i cerfiodd yn ofalus pan gaffai ennyd, ac a’i lluniodd wrth gyfarwyddyd ei ddeall, ac a’i gwnaeth ar lun dyn,

14Neu a’i gwnaeth yn debyg i anifail gwael, gan ei amliwio â choch, a’i beintio â lliw, a pheintio pob gwrthuni ynddo,

15Wedi iddo wneuthur iddo le addas, a’i gosododd wrth bared, ac a’i sicrhaodd â haearn;

16Efe a ofalodd ymlaen llaw rhag iddo syrthio; gan wybod na allai efe help iddo ei hun: oblegid delw yw efe, ac yn rhaid iddo wrth help:

17Yna efe a weddïa am ei dda, am ddyweddi iddo ei hun, ac am blant, heb arno gywilydd lefaru wrth y marw.

18Y mae efe yn galw ar y gwan am iechyd; yn gofyn hoedl gan y marw; yn ymbil am help gan yr hwn ni ŵyr ddim; ac am ei daith yn gweddïo ar yr hwn ni all gerdded cam;

19Ac am elw, a gwaith, a dedwyddwch llaw, yn gofyn llwyddiant gan yr hwn sy ddirymaf i wneuthur dim.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help