Job 19 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y’m drylliwch â geiriau?

3Dengwaith bellach y’m gwaradwyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn.

4Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig fy amryfusedd.

5Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd i’m herbyn:

6Gwybyddwch yn awr mai DUW a’m dymchwelodd i, ac a’m hamgylchodd â’i rwyd.

7Wele, llefaf rhag trawster, ond ni’m hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn.

8Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau.

9Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen.

10Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren.

11Gwnaeth hefyd i’w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a’m cyfrifodd iddo fel un o’i elynion.

12Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell.

13Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a’r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf.

14Fy nghyfnesaf a ballasant, a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant.

15Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a’m morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg.

16Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â’m genau.

17Dieithr oedd fy anadl i’m gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o’m corff.

18Plant hefyd a’m diystyrent: cyfodais, a dywedasant i’m herbyn.

19Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.

20Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais.

21Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw DUW a gyffyrddodd â mi.

22Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel DUW, heb gael digon ar fy nghnawd?

23O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr!

24O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm!

25Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear.

26Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha’r corff hwn, eto caf weled DUW yn fy nghnawd:

27Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a’m llygaid a’i gwelant, ac nid arall; er i’m harennau ddarfod ynof.

28Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof.

29Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help