1A hwy a symudasant o Elim; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o’r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aifft.
2A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch.
3A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr ARGLWYDD yng ngwlad yr Aifft, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.
4Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnânt.
5Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymaint ag a gasglant beunydd.
6A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr ARGLWYDD a’ch dug chwi allan o wlad yr Aifft.
7Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr ARGLWYDD; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr ARGLWYDD: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn?
8Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr ARGLWYDD i chwi yn yr hwyr gig i’w fwyta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r ARGLWYDD eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: oherwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr ARGLWYDD.
9A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nes gerbron yr ARGLWYDD: oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.
10Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tua’r anialwch; ac wele, gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd yn y cwmwl.
11A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
12Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr cewch fwyta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.
13Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll.
14A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â’r llwydrew ar y ddaear.
15Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i’w fwyta.
16Hyn yw y peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta: omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll.
17A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai.
18A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta.
19A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore.
20Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.
21A hwy a’i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.
22Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses.
23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr ARGLWYDD; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i’r ARGLWYDD: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.
24A hwy a’i cadwasant hyd y bore, fel y gorchmynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.
25A dywedodd Moses, Bwytewch hwn heddiw; oblegid Saboth yw heddiw i’r ARGLWYDD: ni chewch hwn yn y maes heddiw.
26Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Saboth, ni bydd efe.
27Eto rhai o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim.
28A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a’m cyfreithiau?
29Gwelwch mai yr ARGLWYDD a roddodd i chwi y Saboth; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd.
30Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd.
31A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a’i flas fel afrllad o fêl.
32A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD; Llanw omer ohono, i’w gadw i’ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlad yr Aifft.
33A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna; a gosod ef gerbron yr ARGLWYDD yng nghadw i’ch cenedlaethau.
34Megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth.
35A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanheddol: manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan.
36A’r omer ydoedd ddegfed ran effa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.