Eseciel 23 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

2Ha fab dyn, dwy wraig oedd ferched i’r un fam;

3A phuteiniasant yn yr Aifft, yn eu hieuenctid y puteiniasant: yno y pwyswyd ar eu bronnau, ac yno yr ysigasant ddidennau eu morwyndod.

4A’u henwau hwynt oedd, Ahola yr hynaf, ac Aholiba ei chwaer: ac yr oeddynt yn eiddof fi, a phlantasant feibion a merched. Dyma eu henwau; Samaria yw Ahola, a Jerwsalem Aholiba.

5Ac Ahola a buteiniodd pan oedd eiddof fi, ac a ymserchodd yn ei chariadau, ei chymdogion yr Asyriaid;

6Y rhai a wisgid â glas, yn ddugiaid ac yn dywysogion, o wŷr ieuainc dymunol i gyd, yn farchogion yn marchogaeth meirch.

7Fel hyn y gwnaeth hi ei phuteindra â hwynt, â dewis feibion Assur oll, a chyda’r rhai oll yr ymserchodd ynddynt; â’u holl eilunod hwynt yr ymhalogodd hi.

8Ac ni adawodd ei phuteindra a ddygasai hi o’r Aifft: canys gorweddasent gyda hi yn eu hieuenctid, a hwy a ysigasent fronnau ei morwyndod hi, ac a dywalltasent eu puteindra arni.

9Am hynny y rhoddais hi yn llaw ei chariadau, sef yn llaw meibion Assur, y rhai yr ymserchodd hi ynddynt.

10Y rhai hynny a ddatguddiasant ei noethni hi: hwy a gymerasant ei meibion hi a’i merched, ac a’i lladdasant hithau â’r cleddyf: a hi a aeth yn enwog ymysg gwragedd: canys gwnaethent farn arni.

11A phan welodd ei chwaer Aholiba, hi a lygrodd ei thraserch yn fwy na hi, a’i phuteindra yn fwy na phuteindra ei chwaer.

12Ymserchodd ym meibion Assur, y dugiaid a’r tywysogion o gymdogion, wedi eu gwisgo yn wych iawn, yn farchogion yn marchogaeth meirch, yn wŷr ieuainc dymunol i gyd.

13Yna y gwelais ei halogi hi, a bod un ffordd ganddynt ill dwy,

14Ac iddi hi chwanegu ar ei phuteindra: canys pan welodd wŷr wedi eu llunio ar y pared, delwau y Caldeaid wedi eu llunio â fermilion,

15Wedi eu gwregysu â gwregys am eu llwynau, yn rhagori mewn lliwiau am eu pennau, mewn golwg yn dywysogion oll, o ddull meibion Babilon yn Caldea, tir eu genedigaeth:

16Hi a ymserchodd ynddynt pan eu gwelodd â’i llygaid, ac a anfonodd genhadau atynt i Caldea.

17A meibion Babilon a ddaethant ati i wely cariad, ac a’i halogasant hi â’u puteindra; a hi a ymhalogodd gyda hwynt, a’i meddwl a giliodd oddi wrthynt.

18Felly y datguddiodd hi ei phuteindra, ac y datguddiodd ei noethni. Yna y ciliodd fy meddwl oddi wrthi, fel y ciliasai fy meddwl oddi wrth ei chwaer hi.

19Eto hi a chwanegodd ei phuteindra, gan gofio dyddiau ei hieuenctid, yn y rhai y puteiniasai hi yn nhir yr Aifft.

20Canys hi a ymserchodd yn ei gordderchwyr, y rhai yr oedd eu cnawd fel cnawd asynnod, a’u diferlif fel diferlif meirch.

21Felly y cofiaist ysgelerder dy ieuenctid, pan ysigwyd dy ddidennau gan yr Eifftiaid, am fronnau dy ieuenctid.

22Am hynny, Aholiba, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn cyfodi dy gariadau i’th erbyn, y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt, a dygaf hwynt i’th erbyn o amgylch:

23Meibion Babilon a’r holl Galdeaid, Pecod, a Soa, a Coa, a holl feibion Assur gyda hwynt; yn wŷr ieuainc dymunol, yn ddugiaid a thywysogion i gyd, yn benaethiaid ac yn enwog, yn marchogaeth meirch, bawb ohonynt.

24A deuant i’th erbyn â menni, cerbydau, ac olwynion, ac â chynulleidfa o bobl; gosodant i’th erbyn oddi amgylch astalch, a tharian, a helm: a rhoddaf o’u blaen hwynt farnedigaeth, a hwy a’th farnant â’u barnedigaethau eu hun.

25A mi a osodaf fy eiddigedd yn dy erbyn, a hwy a wnânt â thi yn llidiog: dy drwyn a’th glustiau a dynnant ymaith, a’th weddill a syrth gan y cleddyf: hwy a ddaliant dy feibion a’th ferched; a’th weddill a ysir gan y tân.

26Diosgant hefyd dy ddillad, a dygant dy ddodrefn hyfryd.

27Felly y gwnaf i’th ysgelerder, a’th buteindra o dir yr Aifft, beidio â thi; fel na chodech dy lygaid atynt, ac na chofiech yr Aifft mwy.

28Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gaseaist, yn llaw y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt.

29A gwnânt â thi yn atgas, ac a gymerant dy holl lafur, ac a’th adawant di yn llom ac yn noeth: a datguddir noethni dy buteindra; ie, dy ysgelerder a’th buteindra.

30Mi a wnaf hyn i ti, am buteinio ohonot ar ôl y cenhedloedd, am dy halogi gyda’u heilunod hwynt.

31Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer; am hynny y rhoddaf finnau ei chwpan hi yn dy law di.

32Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Dwfn a helaeth gwpan dy chwaer a yfi: ti a fyddi i’th watwar ac i’th ddirmygu: y mae llawer yn genni ynddo.

33Ti a lenwir â meddwdod ac â gofid, o gwpan syndod ac anrhaith, o gwpan dy chwaer Samaria.

34Canys ti a yfi, ac a sugni ohono; drylli hefyd ei ddarnau ef, ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun: canys myfi a’i lleferais, medd yr ARGLWYDD DDUW.

35Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Oherwydd i ti fy anghofio, a’m bwrw ohonot tu ôl i’th gefn; am hynny dwg dithau dy ysgelerder a’th buteindra.

36Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrthyf, A ferni di, fab dyn, Ahola ac Aholiba? ie, mynega iddynt eu ffieidd-dra;

37Iddynt dorri priodas, a bod gwaed yn eu dwylo; ie, gyda’u heilunod y puteiniasant; eu meibion hefyd y rhai a blantasant i mi, a dynasant trwy dân iddynt i’w hysu.

38Gwnaethant hyn ychwaneg i mi; fy nghysegr a aflanhasant yn y dydd hwnnw, a’m Sabothau a halogasant.

39Canys pan laddasant eu meibion i’w heilunod, yna y daethant i’m cysegr yn y dydd hwnnw, i’w halogi ef: ac wele, fel hyn y gwnaethant yng nghanol fy nhŷ.

40A hefyd gan anfon ohonoch am wŷr i ddyfod o bell, y rhai yr anfonwyd cennad atynt, ac wele daethant: er mwyn y rhai yr ymolchaist, y lliwiaist dy lygaid, ac yr ymherddaist â harddwch.

41Eisteddaist hefyd ar wely anrhydeddus, a bord drefnus o’i flaen, a gosodaist arno fy arogl-darth a’m holew i.

42A llais tyrfa heddychol oedd gyda hi: a chyda’r cyffredin y dygwyd y Sabeaid o’r anialwch, y rhai a roddasant freichledau am eu dwylo hwynt, a choronau hyfryd am eu pennau hwynt.

43Yna y dywedais wrth yr hen ei phuteindra, A wnânt hwy yn awr buteindra gyda hi, a hithau gyda hwythau?

44Eto aethant ati fel myned at buteinwraig; felly yr aethant at Ahola ac Aholiba, y gwragedd ysgeler.

45A’r gwŷr cyfiawn hwythau a’u barnant hwy â barnedigaeth puteiniaid, ac â barnedigaeth rhai yn tywallt gwaed: canys puteinio y maent, a gwaed sydd yn eu dwylo.

46Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Dygaf i fyny dyrfa arnynt hwy, a rhoddaf hwynt i’w mudo ac i’w hanrheithio.

47A’r dyrfa a’u llabyddiant hwy â meini, ac a’u torrant hwy â’u cleddyfau: eu meibion a’u merched a laddant, a’u tai a losgant â thân.

48Fel hyn y gwnaf finnau i ysgelerder beidio o’r wlad, fel y dysgir yr holl wragedd na wnelont yn ôl eich ysgelerder chwi.

49A hwy a roddant eich ysgelerder i’ch erbyn, a chwi a ddygwch bechodau eich eilunod; ac a gewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help