Y Salmau 109 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 109I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1Na thaw, O DDUW fy moliant.

2Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn.

3Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos.

4Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi.

5Talasant hefyd i mi ddrwg am dda, a chas am fy nghariad.

6Gosod dithau un annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef.

7Pan farner ef, eled yn euog; a bydded ei weddi yn bechod.

8Ychydig fyddo ei ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef.

9Bydded ei blant yn amddifaid, a’i wraig yn weddw.

10Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd leoedd.

11Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.

12Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef.

13Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf.

14Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr ARGLWYDD; ac na ddileer pechod ei fam ef.

15Byddant bob amser gerbron yr ARGLWYDD, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir:

16Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o galon, i’w ladd.

17Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.

18Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; a hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn.

19Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe, ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol.

20Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr ARGLWYDD, a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.

21Tithau, ARGLWYDD DDUW, gwna erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.

22Canys truan a thlawd ydwyf fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn.

23Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y’m hysgydwir.

24Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster.

25Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau.

26Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy NUW; achub fi yn ôl dy drugaredd:

27Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, ARGLWYDD, a’i gwnaethost.

28Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was.

29Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl.

30Clodforaf yr ARGLWYDD yn ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer.

31Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help