1Dyma lyfr gorchmynion Duw, a’r gyfraith a bery byth: y rhai oll a’i cadwant hi a ddeuant i fywyd, a’r rhai a’i gadawant hi a fyddant feirw.
2Dychwel Jacob, ac ymafael ynddi hi: rhodia mewn goleuni wrth ei llewyrch hi.
3Na ddod dy ogoniant i arall, na’r pethau buddiol i genedl ddieithr.
4Gwyn ein byd ni, Israel, am fod yn hysbys i ni y pethau a ryglyddant fodd i Dduw.
5O fy mhobl, coffadwriaeth Israel, cymer gysur.
6Chwi a werthwyd i’r cenhedloedd, nid i’ch difetha; ond oherwydd i chwi annog Duw i ddig y rhoddwyd chwi i’r gelynion.
7Oherwydd chwi a ddigiasoch yr hwn a’ch gwnaeth, gan offrymu i gythreuliaid, ac nid i Dduw.
8Anghofiasoch Dduw tragwyddol, yr hwn a’ch cenhedlodd chwi: a’ch mamaeth Jerwsalem a wnaethoch yn drist.
9Oblegid hi a welodd y dig oedd yn dyfod arnoch chwi, ac a ddywedodd, Gwrandewch, cymdogion Seion; dygodd Duw arnaf fi dristwch mawr;
10Oherwydd mi a welais gaethiwed fy meibion a’m merched, yr hon a ddug y tragwyddol Dduw arnynt hwy.
11Canys yn llawen y megais i hwynt: eithr trwy wylofain a thristwch y danfonais hwynt ymaith.
12Na lawenyched neb o’m plegid i, yr hon ydwyf weddw, ac a wrthododd llawer: anghyfannedd ydwyf fi o achos pechodau fy mhlant, am gilio ohonynt hwy oddi wrth gyfraith Dduw.
13Nid adnabuant hwy ei gyfiawnder ef, ac ni rodiasant yn ffyrdd gorchmynion Duw, ac ni sathrasant lwybrau dysg yn ei gyfiawnder ef.
14Deued cymdogion Seion, cofiwch gaethiwed fy meibion a’m merched, yr hon a ddug y tragwyddol Dduw arnynt hwy.
15Oherwydd efe a ddug yn eu herbyn hwynt genedl o bell, cenedl ddigywilydd, ac estronieithus; y rhai ni pharchent yr hen, ac ni thosturient wrth y dyn bach;
16Ac a ddygasant ymaith anwylblant y weddw, ac a wnaethant yr unig yn amddifad heb ferched.
17A pha help a allaf fi i chwi?
18Oblegid yr hwn a ddug adfyd arnoch a’ch gwared chwi o law eich gelynion.
19Ymaith â chwi, ymaith â chwi, fy mhlant, oblegid fo’m gadawyd i yn anghyfannedd.
20Mi a ddiosgais wisg tangnefedd, ac a wisgais sachliain fy ngweddi: tra fyddwyf fi byw y llefaf ar Dduw tragwyddol.
21Cymerwch gysur, blant: llefwch ar yr Arglwydd; ac efe a’ch gwared chwi oddi wrth gadernid a dwylo eich gelynion:
22Oherwydd y mae gennyf fi obaith yn y Tragwyddol o’ch iachawdwriaeth chwi, ac fe ddaeth i mi lawenydd oddi wrth yr hwn sydd Sanctaidd, oherwydd y drugaredd yr hon a ddaw i chwi yn fuan gan ein tragwyddol Iachawdwr ni.
23Oblegid trwy dristwch ac wylofain y danfonais chwi allan: eithr Duw a’ch rhydd chwi i mi drachefn trwy lawenydd a hyfrydwch byth.
24Megis yn awr y gwelodd cymdogion Seion eich caethiwed chwi; felly ar fyrder y gwelant eich iachawdwriaeth chwi oddi wrth eich Duw, yr hon a ddaw i chwi trwy ogoniant mawr a disgleirdeb y Tragwyddol.
25O fy mhlant, cymerwch yn ddioddefgar y dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw: oherwydd y gelyn a’th erlidiodd di; eithr ar fyrder ti a gei weled ei ddinistr ef, ac a sethri ar ei wddf ef.
26Fy anwylyd a aethant ar hyd ffyrdd geirwon; hwy a dducpwyd ymaith fel praidd, yr hwn a sglyfaethai gelynion.
27Cymerwch gysur, fy mhlant, a gelwch ar Dduw: oblegid y mae yr hwn a ddug y pethau hyn arnoch chwi yn meddwl amdanoch.
28Megis y bu eich meddwl chwi ar gyfeiliorni oddi wrth Dduw, felly, gan i chwi droi, bydded yn ddeg mwy ar ei geisio ef.
29Oblegid yr hwn a ddug y drygau hyn arnoch, a ddwg i chwi gyda’ch iachawdwriaeth, lawenydd tragwyddol.
30Cymer gysur, Jerwsalem; y mae yr hwn a’th enwodd di yn dy gysuro.
31Gwae y rhai a wnaethant niwed i ti, ac a fu lawen ganddynt dy gwymp!
32Gwae y dinasoedd y gwnaeth dy blant wasanaeth iddynt! gwae yr hon a gymerodd dy feibion di!
33Oblegid megis y mae yn llawen ganddi dy gwymp di, ac yn hyfryd ganddi dy dramgwydd; felly y bydd hi athrist oblegid ei hanghyfanhedd-dra ei hun:
34Canys mi a dorraf ymaith lawenydd ei lliaws mawr hi, a’i ffrost a fydd yn dristwch.
35Oherwydd tân a ddaw arni hi dros hir ddyddiau, oddi wrth Dduw tragwyddol; a chythreuliaid a breswyliant ynddi amser mawr.
36Edrych, O Jerwsalem, tua’r dwyrain, a gwêl yr hyfrydwch sydd yn dyfod i ti gan Dduw.
37Wele, y mae dy feibion, y rhai a anfonaist ymaith, yn dyfod; y maent hwy yn dyfod wedi eu casglu o’r dwyrain hyd y gorllewin, trwy air yr hwn sydd Sanctaidd, gan lawenychu yng ngogoniant Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.