Eseia 36 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl gaerog ddinasoedd Jwda, ac a’u goresgynnodd hwynt.

2A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr. Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr.

3Ac aeth ato ef Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.

4A dywedodd Rabsace wrthynt, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywed y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr ymddiriedi ynddo?

5Dywedais, meddi, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel: ar bwy, atolwg, yr hyderi, pan wyt yn gwrthryfela i’m herbyn?

6Wele, hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedig honno, ar yr Aifft; yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno.

7Ond os dywedi wrthyf, Yn yr ARGLWYDD ein DUW yr ydym yn ymddiried: onid efe yw yr hwn y darfu i Heseceia dynnu i lawr ei uchelfeydd, a’i allorau, a dywedyd wrth Jwda a Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr addolwch?

8Ac yn awr dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd brenin Asyria, a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt.

9A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau ac am farchogion?

10Ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yr awr hon yn erbyn y wlad hon i’w dinistrio? yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.

11Yna y dywedodd Eliacim, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg: canys yr ydym ni yn ei deall; ac na lefara wrthym yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.

12Ond Rabsace a ddywedodd, Ai at dy feistr ac atat tithau yr anfonodd fy meistr fi i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur yr anfonodd fi, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi?

13A safodd Rabsace, a gwaeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, ac a ddywedodd, Gwrandewch eiriau y brenin mawr, brenin Asyria:

14Fel hyn y dywed y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi.

15Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan waredu a’ch gwared chwi, ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria.

16Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder â mi, a deuwch allan ataf, a bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun;

17Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd.

18Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’n gwared ni. A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?

19Mae duwiau Hamath ac Arffad? mae duwiau Seffarfaim? a waredasant hwy Samaria o’m llaw i?

20Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr ARGLWYDD Jerwsalem o’m llaw?

21Eithr hwy a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.

22Yna y daeth Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, â’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help