Eseia 15 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Baich Moab. Oherwydd y nos y dinistriwyd Ar Moab, ac y distawyd hi; oherwydd y nos y dinistriwyd Cir Moab, ac y distawyd hi.

2Aeth i fyny i Baith, ac i Dibon, i’r uchelfeydd, i wylo: am Nebo, ac am Medeba, yr uda Moab; bydd moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio.

3Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachliain: ar bennau eu tai, ac yn eu heolydd, yr uda pob un, gan wylo yn hidl.

4Gwaedda Hesbon hefyd, ac Eleale: hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, pob un a flina ar ei einioes.

5Fy nghalon a waedda am Moab, ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar, fel anner deirblwydd; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith: canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim.

6Oherwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith: canys gwywodd y llysiau, darfu y gwellt; nid oes gwyrddlesni.

7Am hynny yr helaethrwydd a gawsant, a’r hyn a roesant i gadw, a ddygant i afon yr helyg.

8Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab, eu hudfa hyd Eglaim, a’u hochain hyd Beer-elim.

9Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed; canys gosodaf ychwaneg ar Dimon, llewod ar yr hwn a ddihango ym Moab, ac ar weddill y wlad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help