Ecclesiasticus (Sirach) 40 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 40

1Blinder mawr a grewyd i bob dyn, a iau drom sydd ar feibion dynion, o’r dydd y delont hwy o groth eu mam hyd y dydd y dychwelont i fam pob peth:

2Sef eu meddyliau, a’u braw calon, eu disgwyliad am y pethau a ddaw, a’u dydd diwedd;

3O’r hwn sydd yn eistedd ar deyrngadair gogoniant, hyd yr iselradd, yr hwn sydd yn y pridd a’r lludw;

4O’r hwn sydd yn gwisgo porffor a choron, hyd yr hwn a wisg liain cri.

5Y mae dig a chenfigen, blinder a helbul, ac ofn marwolaeth, a llid, ac ymryson; ac yn amser cymryd esmwythdra yn ei wely, ei gwsg liw nos a newidia ei wybodaeth ef.

6Megis yn nydd amser gwylio, felly yn ei gwsg, ychydig neu beth heb ddim yw ei esmwythdra ef: efe a gythryblir yn ei galon megis un wedi ffoi o ryfel.

7Pan fo pob peth yn ddiofal, efe a ddeffry, ac a ryfedda nad oedd yr ofn ddim.

8Felly y mae i bob cnawd, yn ddyn ac yn anifail; ac i bechaduriaid y mae saith mwy na hyn.

9Marwolaeth, gwaed, ymryson, cleddyf, gorthrymder, newyn, cystudd, a ffrewyll,

10Yn erbyn yr annuwiol y gwnaed hyn oll; ac er eu mwyn hwy y bu y dilyw.

11Pob peth a’r y sydd o’r ddaear, a ddychwel, i’r ddaear; hyn sy o’r dyfroedd, a droir i’r môr.

12Pob derbyn gwobr, ac anghyfiawnder, a ddileir; ac uniondeb a bery byth.

13Golud rhai anghyfiawn a â yn ddihysbydd fel afon, ac a ddiflanna trwy dwrf fel taran fawr ar law.

14Tra yr agoro efe ei law, efe a fydd lawen: felly y derfydd am y troseddwyr.

15Hiliogaeth yr annuwiol ni byddant ganghennog; eithr fel gwraidd aflan ydynt ar graig ddibyn.

16Y chwyn yn tyfu wrth bob dwfr, ac yng nglan yr afon, a dynnir o flaen pob gwellt.

17Caredigrwydd sy fel gardd baradwysaidd: a thrugaredd a bery byth.

18Melys yw buchedd yr hwn a weithio, ac a fyddo bodlon i’w gyflwr; gwell na’r ddau yw yr hwn a gaffo drysor.

19Planta, ac adeiladu dinas, a sicrha enw: eithr gwraig ddifai a gyfrifir yn well na’r ddau.

20Gwin a cherdd a lawenycha’r galon; eithr hoffi doethineb sy fwy na’r dau.

21Pibell a saltring a wnânt gynghanedd felys: a thafod mwyn sy well na’r ddau.

22Pryd a thegwch a chwennych llygad: er hynny gwell yw egin glas na’r ddau.

23Cyfaill a chydymaith a gyfarfyddant mewn pryd; gwraig gyda’i gŵr sydd well na’r ddau.

24Brodyr a chymorth sy dda yn amser adfyd; eithr elusen a wared yn fwy na’r ddau.

25Aur ac arian a sefydlant y troed: a chyngor sy gymeradwyach na’r ddau.

26Golud a chryfder a ddyrchafa’r galon: eithr ofn yr Arglwydd sy fwy na’r ddau: nid oes eisiau yn ofn yr Arglwydd, ac nid rhaid iddo ef geisio help.

27Gardd a fendithiwyd yw ofn yr Arglwydd, ac a’i gorchuddia ef uwch pob gogoniant.

28Fy mab, na fydd yn westai: gwell yw marw na gwesta.

29Nid yw bywyd yr hwn a edrych ar fwrdd gŵr arall, i’w gyfrif yn fywyd; efe a haloga ei enaid am fwyd eraill: eithr y gŵr call, a ddysgwyd yn dda, a ymochel rhag hynny.

30Melys yw cardota yng ngenau y digywilydd; ond yn ei fol ef y llysg tân.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help