Ecclesiasticus (Sirach) 47 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 47

1Wedi hyn y cyfododd y proffwyd Nathan yn nyddiau Dafydd.

2Fel y neilltuir y braster oddi wrth yr offrwm, felly y dewiswyd Dafydd o feibion Israel.

3Efe a chwaraeodd â llewod megis â mynnod, ac ag eirth megis ag ŵyn defaid.

4Oni laddodd efe gawr yn ei ieuenctid? ac oni thynnodd efe ymaith waradwydd y bobl, pan gyfododd efe ei law â charreg dafl, a bwrw i lawr falchder Goleiath?

5Canys efe a alwodd ar yr Arglwydd goruchaf, ac yntau a roddes nerth i’w ddeheulaw ef i ladd y dyn cryf yn y rhyfel, fel y dyrchafai efe gorn ei bobl.

6Felly y bobl a’i hanrhydeddodd yntau â myrddiwn, ac a’i canmolodd ym mendithion yr Arglwydd, pan roes iddo ef goron y gogoniant.

7Efe a ddrylliodd y gelynion o amgylch, ac a ddifethodd y Philistiaid oedd wrthwynebwyr iddo, ac a ddrylliodd eu corn hwy hyd heddiw.

8Yn ei holl waith y rhoddes efe glodforedd i’r hwn sy Sanctaidd a Goruchaf; â geiriau anrhydeddus, ac â’i holl galon, y canodd efe ganiadau, ac y carodd ef yr hwn a’i gwnaeth.

9Ac efe a osododd gantorion o flaen yr allor, fel y gwnaent gerdd felys ar dafod, ac y clodforent Dduw beunydd â’u caniadau.

10Efe a roddes drefn weddaidd am y gwyliau, ac a gymhwysodd yr amserau yn berffaith, fel y clodforent hwy ei enw sanctaidd ef, ac y gwnaent i’w gysegr ef seinio yn fore.

11Yr Arglwydd a ddileodd ei bechodau ef, ac a ddyrchafodd ei gorn ef byth, ac a roddes iddo gyfamod y frenhiniaeth, a gorseddfainc gogoniant yn Israel.

12Ar ôl hwn y cododd mab doeth, ac a breswyliodd mewn ehangder er ei fwyn ef.

13Salomon a deyrnasodd mewn amser heddychlon, ac a oedd anrhydeddus: canys Duw a barasai lonyddwch o’i amgylch ef, fel yr adeiladai efe dŷ i’w enw ef, ac y darparai gysegr dros fyth.

14Mor ddoeth oedd efe yn ei ieuenctid, a megis afon yn llawn o synnwyr!

15Dy enaid a orchuddiodd yr holl ddaear, ac a’i llanwodd â diarhebion damhegol.

16Dy enw a aeth ymhell i’r ynysoedd; a chu oeddit am dy heddwch.

17Rhyfeddodd y gwledydd wrth dy ganiadau, a’th ddiarhebion, a’th gyffelybiaethau, a’th ddeongliadau.

18Trwy enw Arglwydd Dduw yr holl ddaear, yr hwn a elwir dy Dduw di, Israel, y cesglaist ti aur fel alcam, ac y cefaist arian cyn amled â’r plwm.

19Ti a ogwyddaist dy lwynau i wragedd, ac a’th ddarostyngwyd yn dy gorff.

20Ti a anefaist dy ogoniant, ac a halogaist dy hiliogaeth, gan ddwyn digofaint yn erbyn dy blant, a dwyn gofid am dy ynfydrwydd.

21Felly y rhannwyd y frenhiniaeth, ac y dechreuodd brenhiniaeth anufuddgar fod o Effraim.

22Er hynny ni ad yr Arglwydd ei drugaredd ymaith byth, ac ni ddifethir un o’i weithredoedd ef, ac ni ddilea efe hiliogaeth ei etholedig, ac ni ddwg ymaith epil yr hwn a’i câr ef: o ba herwydd efe a adawodd weddill i Jacob, a gwreiddyn i Ddafydd, ohono ef.

23Yna Salomon a orffwysodd gyda’i dadau, ac a adawodd o’i hiliogaeth ar ei ôl, Roboam, ynfydrwydd y bobl, ac un disynnwyr, yr hwn a yrrodd y bobl ymaith â’i gyngor. Ac yr oedd Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ac a ddangosodd y ffordd i Effraim i bechu.

24A’u pechodau hwy a amlhasant mor ddirfawr, hyd oni throdd efe hwynt allan o’r wlad.

25Canys hwy a geisiasant allan bob anwiredd, hyd oni ddaeth dig a dialedd arnynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help