Jeremeia 24 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi, ac wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer teml yr ARGLWYDD, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda’r seiri a’r gofaint o Jerwsalem, a’u dwyn i Babilon.

2Un cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr aeddfediad cyntaf: a’r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced.

3Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Beth a weli di, Jeremeia? A mi a ddywedais, Ffigys: y ffigys da, yn dda iawn; a’r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced.

4Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais o’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni.

6Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a’u dygaf drachefn i’r wlad hon, ac a’u hadeiladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ac nis diwreiddiaf.

7Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr ARGLWYDD ydwyf fi: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy: canys hwy a droant ataf fi â’u holl galon.

8Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a’r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft:

9Ie, rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt.

10A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i’w tadau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help