1Clodforaf di, O ARGLWYDD, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.
2Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf.
3Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di.
4Canys gwnaethost fy marn a’m mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn.
5Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol.
6Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt.
7Ond yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn.
8Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb.
9Yr ARGLWYDD hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.
10A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O ARGLWYDD, y rhai a’th geisient.
11Canmolwch yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef.
12Pan ymofynno efe am waed, efe a’u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol.
13Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau:
14Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.
15Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.
16Adwaenir yr ARGLWYDD wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela.
17Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW.
18Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.
19Cyfod, ARGLWYDD; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.
20Gosod, ARGLWYDD, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
