Hosea 1 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas, brenin Israel.

2Dechrau ymadrodd yr ARGLWYDD trwy Hosea. Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Hosea, Dos, cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr ARGLWYDD.

3Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim; a hi a feichiogodd, ac a ddug iddo ef fab.

4A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Galw ei enw ef Jesreel: canys ar fyrder y dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu, ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod.

5A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel.

6A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Galw ei henw hi Lo-rwhama; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Israel; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr.

7Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda, ac a’u cadwaf hwynt trwy yr ARGLWYDD eu DUW; ac nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, nac â meirch nac â marchogion, y cadwaf hwynt.

8A hi a ddiddyfnodd Lo-rwhama, ac a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab.

9A DUW a ddywedodd, Galw ei enw ef Lo-ammi: canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn DDUW.

10Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a bydd, yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y DUW byw ydych.

11Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o’r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help