Doethineb Solomon 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 3

1Eithr y mae eneidiau y rhai cyfiawn yn llaw Dduw; ac ni chyffwrdd cystudd a hwynt.

2Y rhai angall oedd yn tybied eu bod hwy yn meirw; a drwg y cyfrifid eu diwedd hwynt,

3A’u mynediad oddi wrthym ni yn ddinistr: eithr y maent hwy mewn heddwch.

4Oblegid er eu cystuddio hwy yng ngolwg dynion, y mae eu gobaith hwy yn llawn tragwyddoldeb.

5A lle y ceryddwyd hwy ychydig, hwy a gânt lawer o fudd: oblegid Duw a’u profodd hwynt, ac a’u cafodd yn addas iddo ei hun.

6Efe a’u profodd hwynt fel aur yn y ffwrn, ac a’u derbyniodd fel aberth llosg.

7Ac yn amser eu gofwy hwy a ddisgleiriant, ac a redant i mewn ac allan, fel gwreichion mewn sofl.

8Hwy a farnant genhedloedd, ac a lywodraethant bobloedd; a’u Harglwydd hwy a deyrnasa byth.

9Y rhai a ymddiriedant ynddo ef a ddeallant y gwirionedd; a’r rhai ffyddlon mewn cariad a arhosant gydag ef: oblegid gras a thrugaredd sydd i’w saint ef, ac efe a ofala dros ei etholedigion.

10Eithr yr annuwiol, fel y meddyliasant, a gânt gosbedigaeth, y rhai a ddiystyrasant y cyfiawn, ac a wrthodasant yr Arglwydd.

11Canys annedwydd yw yr hwn a ddiystyro ddoethineb ac addysg, ac ofer yw eu gobaith: eu llafur hefyd a fydd diffrwyth, a’u gwaith yn ddi-fudd.

12Eu gwragedd sydd yn angall, a’u plant yn ddrygionus.

13Melltigedig yw eu hepil hwynt: canys dedwydd yw’r amhlantadwy ddihalogedig, yr hon nid adnabu wely mewn pechod: hi a gaiff ffrwyth pan ymweler â’r eneidiau:

14A dedwydd yw y disbaidd, yr hwn ni wnaeth anwiredd â’i ddwylo, ac ni feddyliodd ddrygioni yn erbyn yr Arglwydd: canys iddo ef y rhoddir dewisol rad ffydd, a’r rhan gymeradwyaf gan ei feddwl, yn nheml yr Arglwydd.

15Canys gogoneddus yw ffrwyth poen dda; a gwreiddyn doethineb ni ddiflanna byth.

16Eithr plant y godinebus a fyddant amherffaith; a’r had o wely anwir a ddiflanna;

17Oblegid os hir-hoedlog fyddant, ni wneir dim cyfrif ohonynt: a’u henaint fydd amharchus yn y diwedd.

18Eithr os yn fuan y diweddir hwynt, ni chânt obaith na chysur yn nydd ymweliad:

19Oblegid ofnadwy yw diwedd y genhedlaeth anghyfiawn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help