Diarhebion 23 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pan eisteddych i fwyta gyda thywysog, ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron:

2A gosod gyllell ar dy geg, os byddi ddyn blysig.

3Na ddeisyf ei ddanteithion ef: canys bwyd twyllodrus ydyw.

4Nac ymflina i ymgyfoethogi: dod heibio dy synnwyr dy hun.

5A beri di i’th lygaid ehedeg ar y peth nid yw? canys golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith megis eryr tua’r wybr.

6Na fwyta fwyd y drwg ei lygad; ac na chwennych mo’i ddanteithion ef.

7Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf; a’i galon heb fod gyda thi.

8Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny, a’th eiriau melys a golli.

9Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau.

10Na symud mo’r hen derfyn; ac na ddos i feysydd yr amddifaid:

11Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol; ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di.

12Gosod dy galon ar addysg, a’th glustiau ar eiriau gwybodaeth.

13Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn: os curi ef â gwialen, ni bydd efe farw.

14Cur ef â gwialen, a thi a achubi ei enaid rhag uffern.

15Fy mab, os dy galon di fydd doeth, fy nghalon innau a lawenycha;

16Ie, fy arennau a grychneidiant, pan draetho dy wefusau di gyfiawnder.

17Na wynfyded dy galon wrth bechaduriaid: ond aros yn ofn yr ARGLWYDD yn hyd y dydd.

18Canys yn ddiau y mae gwobr; ac ni phalla dy ddisgwyliad.

19Erglyw, fy mab, a bydd ddoeth; a chyfarwydda dy galon yn y ffordd.

20Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win; ymysg y rhai glythion ar gig.

21Canys y meddw a’r glwth a ddaw i dlodi: a chysgu a bair fyned mewn gwisg garpiog.

22Gwrando ar dy dad a’th genhedlodd: ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio.

23Prŷn y gwir, ac na werth; felly doethineb, ac addysg, a deall.

24Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr; a’r neb a genhedlo fab doeth, a lawenha o’i blegid.

25Dy dad a’th fam a lawenycha; a’r hon a’th ymddûg a orfoledda.

26Fy mab, moes i mi dy galon; dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i.

27Canys ffos ddofn yw putain: a phydew cyfyng yw y ddieithr.

28Ie, hi a gynllwyn fel gwilliad; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion.

29I bwy y mae gwae? i bwy y mae ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gwelïau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion?

30I’r neb sydd yn aros wrth y gwin: i’r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig.

31Nac edrych ar y gwin pan fyddo goch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn.

32Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr.

33Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a’th galon a draetha drawsedd.

34Ti a fyddi megis un yn cysgu yng nghanol y môr, ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren.

35Curent fi, meddi, ac ni chlafychais; dulient fi, ac nis gwybûm: pan ddeffrowyf, mi a af rhagof; mi a’i ceisiaf drachefn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help